Rhestr Awduron Cymru

EVANS, GERAINT

Geraint EvansMae Geraint Evans yn byw yn Nhal-y-bont, Ceredigion ond fe'i magwyd yn ardal lofaol Sir Gaerfyrddin. Bu'n ddarlithydd yn Adran Astudiaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth ac am gyfnod yn Warden ar Neuadd Breswyl Pantycelyn.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Y Llwybr (Y Lolfa, 2009)
Llafnau (Y Lolfa, 2010)
Nemesis (Canolfan Astudiaethau Addysg, Aberystwyth, 2011)

Nemesis (Canolfan Astudiaethau, Aberystwyth, 2011)
Nofel dditectif gyfoes am ferch ysgol sy'n cael ei stelcio trwy gyfrwng y dechnoleg ddiweddaraf. Nofel ar gyfer bechgyn a merched oedran uwchradd.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.



Llafnau (Y Lolfa, 2010)
Mewn cyfarfod tanbaid ynglyn a datblygiad melinau gwynt yn neuadd bentre Esgair-goch, cafodd Martin Thomas newyddion da. Byddai Fferm Wynt Hyddgen yn cael ei hadeiladu ar dir mynyddig ei fferm. Ond ynghanol ffrae sy'n hollti cymuned, caiff Martin ei lofruddio ar ei ffordd adref o'r cyfarfod…

Cliciwch ar y clawr i brynu copi,

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z