Rhestr Awduron Cymru

WYN, RHIANNON

Rhiannon WynDaw Rhiannon o’r Groeslon, ger Caernarfon. Cafodd ei magu mewn siop lyfrau a’i hannog i ysgrifennu pan oedd yn blentyn 
 Ar ôl graddio o Goleg Aberystwyth, bu’n teithio rownd y byd. Bellach mae’n gweithio fel sgriptwraig ar “Rownd a Rownd” a “Phobol y Cwm”. Enillodd Wobr  Tir na n-Og 2010 am ei nofel i bobl ifanc, Codi Bwganod.

 

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Cyfres Codi'r Llenni: I Dir Neb (efo Catrin Jones) (Y Lolfa, 2007)
Cyfres yr Onnen: Codi Bwganod (Y Lolfa, 2009)



Adolygiadau:

"Ceir yma ddeialog fywiog, lawn hiwmor. Cymeriadau diddorol ac anarferol. Disgrifiadau doniol a lliwgar. Cymariaethau cyfoes, ffres, a themâu oesol o genfigen a chariad, ansicrwydd a chymhlethdodau bywyd yn gwau trwy'r cwbl i gyd."
Siwan Wyn, Gwales.com, yn trafod Codi Bwganod



Codi Bwganod
(Y Lolfa, 2009)
Un o Gyfres yr Onnen - wyth nofel wedi eu hanelu at ddarlenwyr da 9 i 13 oed. Enillydd Wobr Tir na n-Og 2010.

Cilciwch ar y clawr i brynu copi.  







 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z