Rhestr Awduron Cymru
WYN, RHIANNON
Daw Rhiannon o’r Groeslon, ger Caernarfon. Cafodd ei magu mewn siop lyfrau a’i hannog i ysgrifennu pan oedd yn blentyn
Ar ôl graddio o Goleg Aberystwyth, bu’n teithio rownd y byd. Bellach mae’n gweithio fel sgriptwraig ar “Rownd a Rownd” a “Phobol y Cwm”. Enillodd Wobr Tir na n-Og 2010 am ei nofel i bobl ifanc, Codi Bwganod.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Cyfres Codi'r Llenni: I Dir Neb (efo Catrin Jones) (Y Lolfa, 2007)
Cyfres yr Onnen: Codi Bwganod (Y Lolfa, 2009)
Adolygiadau:
"Ceir yma ddeialog fywiog, lawn hiwmor. Cymeriadau diddorol ac anarferol. Disgrifiadau doniol a lliwgar. Cymariaethau cyfoes, ffres, a themâu oesol o genfigen a chariad, ansicrwydd a chymhlethdodau bywyd yn gwau trwy'r cwbl i gyd."
Siwan Wyn, Gwales.com, yn trafod Codi Bwganod
Codi Bwganod (Y Lolfa, 2009)
Un o Gyfres yr Onnen - wyth nofel wedi eu hanelu at ddarlenwyr da 9 i 13 oed. Enillydd Wobr Tir na n-Og 2010.
Cilciwch ar y clawr i brynu copi.


