Rhestr Awduron Cymru
REEVES, B. SIÂN
Mae B. Siân Reeves yn byw yn Aberhonddu, ac mae’n gweithio i Gyngor Dinas Caerdydd. Mae’n briod â Tony ac yn fam i Dafydd a Gwenllian. Dechreuodd ysgrifennu o ddifri ar ôl ennill cystadleuaeth Stori Fer Radio Cymru, ac yna Cystadleuaeth Stori Fer Eisteddfod Genedlaethol Eryri. Mae wedi cyhoeddi stori fer yng nghylchgrawn llenyddol Taliesin ac enillodd Ysgoloriaeth yr Academi i ysgrifennu ei nofel gyntaf, Nest.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Nest (Gomer, 2009)
Adolygiadau:
"..heb os, mae ‘na berffeithrwydd melys yn perthyn i’r nofel hon."
Sarah Down, Gwales.com
"Mae yma wead clyfar o ffaith a dychymyg gyda gwersi i'r sawl a'u myn heb i hynny droi'r nofel yn werslyfr hanes."
Glyn Evans, BBC Cymru
Nest (Gomer, 2009)
Bywyd caled a bygythiad y pla ddaw i ran pob teulu cyffredin yn Aberhonddu yn y 14eg ganrif. Ond i ferch un teulu sy'n bell o fod yn gyffredin, mae dihangfa oddi wrth ofn a gofid i'w gael yn hanes hynod ei mam, Efa.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


