Rhestr Awduron Cymru
OWEN, SIAN
Ganed Sian Owen yn Llanuwchllyn ond fe'i magwyd yn Ynys Môn. Aeth i Ysgol Uwchradd Bodedern a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae Sian yn gweithio fel cyfieithydd, awdur a golygydd ar ei liwt ei hun. Bu hefyd yn gweithio am gyfnodau gyda'r BBC yn cynhyrchu rhaglenni i Radio Cymru ac yna'n golygu gwerslyfrau gwyddonol i CBAC. Ar hyn o bryd mae'n astudio'n rhan amser ar gyfer PhD mewn ysgrifennu creadigol yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Enillodd Gadair, Coron a Medal Ryddiaith Eisteddfod Môn. Enillodd hefyd Gystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Féile Filíochta yn 2007. Mae'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Bro Alaw.
Enwyd ei nofel gyntaf i oedolion, Mân Esgyrn (Gwasg Gomer, 2009), ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2010.
Cyhoeddiad:
Mân Esgyrn (Gwasg Gomer, 2009)
Adolygiadau:
“..nofel dynn, sy’n afaelgar a chrefftus..”
Rhiannon Lloyd
“..arddulliwr gorau’r gystadleuaeth. Mae ei gallu i lunio cymariaethau ffres a dychmygus yn rhywbeth i ryfeddu ato.”
Geraint V. Jones
"Mor sicr yw ei chrefft, ac mor ysgafn ei chyffyrddiad, ni ellir ond rhyfeddu mai hon yw nofel gyntaf Sian Owen. Lluniodd dapestri coeth o'r edefynnau sy'n dal pobl ynghlwm wrth ei gilydd ac wrth eu hamgylchfyd."
Angharad Price
"..cefais fy nghyfareddu gan y nofel hon.."
John Rowlands
".. yr hyn sydd yn aros efo rhywun yw'r cymeriadau credadwy a'r ymdeimlad o gariad ac adnabyddiaeth o gymuned arbennig a darn o dir ar Ynys Môn. Dyma nofel gyntaf wirioneddol drawiadol."
Dafydd Morgan Lewis, Gwales.com
Mân Esgyrn (Gwasg Gomer, 2009)
Nofel a dderbyniodd glod uchel yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen 2009. Nofel afaelgar, grefftus am ddiffyg cyfathrebu. Stori gyfoes am Carol, gwerthwr tai 39 oed sy'n dychwelyd i'r dref lle cafodd ei magu..
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


