Rhestr Awduron Cymru

IORWERTH, RHYS

Ebost: rhysiorwerth@hotmail.com

Rhys IorwerthCofi o Gaernarfon sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd.

Yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol, enillodd goron a chadair yr Eisteddfod Ryng-Golegol, i gyd-fynd â nifer o gadeiriau eraill a sawl stôl stomp. Yn y brifysgol hefyd enillodd radd MA gydag anrhydedd, wedi’i seilio ar astudiaethau o waith R. Williams Parry a’r farddoniaeth sy’n gysylltiedig â gwrthryfel Glyndŵr. Pan nad oedd yn astudio, roedd yn golofnydd ac yn olygydd ar dudalennau Cymraeg papur newydd y myfyrwyr, Gair Rhydd. Erbyn hyn, gyda’r dydd, mae’n gyfieithydd ac yn olygydd yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Aberhafren a thîm ymryson y Deheubarth, ac os nad yw’n cynganeddu, mae’n hoff o chwarae’r drymiau a dilyn helyntion tîm pêl-droed Cymru o’r naill gwr o’r byd i’r llall. Ef yw un o drefnwyr Bragdy'r Beirdd, nosweithiau llenyddol yng Nghaerdydd.

Cipiodd Rhys y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro 2011. Dyma oedd y tro cyntaf iddo gystadlu yn y gystadleuaeth. Mae ef yn Aelod yr Academi Gymreig.

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z