Rhestr Awduron Cymru
DAFYDD, SIAN MELANGELL
Enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau 2009 gyda'i chyfrol Y Trydydd Peth. Derbyniodd Sian Ysgoloriaeth gan yr Academi yn 2007-2008. Cafodd Siân ei geni yn Nolgellau lle bu'n byw am dair blynedd cyn symud i hen dŷ cipar yng nghesail Garth Goch, prin filltir o gaeau'r Rhiwlas, safle'r Eisteddfod eleni. Cafodd ei haddysg yn Ysgolion Bro Tegid a'r Berwyn ond gorffennodd ei haddysg Safon A yng Ngholeg Meirion Dwyfor. Fe raddiodd gyda MA mewn hanes celf ym Mhrifysgol St Andrews yn Yr Alban ac mae hi wedi bod yn gweithio mewn orielau gwahanol, gan gynnwys Llundain a Chianti. Bu'n gweithio fel rheolwr marchnata Sgript Cymru cyn gorffen cwrs MA mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol East Anglia yn Norwich. Erbyn hyn mae hi'n hunanliwtiwr, yn rhannu ei hamser rhwng Cymru a Pharis lle mae hi'n ymchwilio i nofel. Enillodd Goron Eisteddfod Gadeiriol Llanegryn yn 1995 ac wedi anogaeth y beirniaid
John Gwilym Jones, fe wnaeth barhau i ysgrifennu. Yn 1998 a 1999 fe enillodd Goron yr Eisteddfod Ryng-golegol.
Ym mis Rhagfyr 2009, cyhoeddwyd y bydd Sian Melangell Dafydd yn cyd-olygu y cylchgrawn Taliesin gydag Angharad Elen.
Cafodd ei chyfrol, Y Trydydd Peth (Gwasg Gomer, 2009), ei enwi ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2010.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Y Trydydd Peth (Gwasg Gomer, 2009)
Y Trydydd Peth (Gwasg Gomer, 2009)
Mae George Owens yn 90 oed ac yn myfyrio ar natur dŵr: ar yr H a'r O, ond hefyd ar y "trydydd peth" annirnad hwnnw sy'n gwneud dŵr yn ddŵr. A dyma olrhain hanes perthynas George ag enghraifft benodol o'r elfen honno, sef afon fawr ei gynefin, afon Dyfrdwy. Nofel arobryn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau, 2009.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


