Rhestr Awduron Cymru

GWILYM, MARI

Rhif Ffôn: 01286 672070
Ebost: marigwilym@btinternet.com
Ewch yma ar gyfer manylion trefnu digwyddiad

Mari GwilymActores, cyflwynydd, cyfarwydd plant ac oedolion, awdur-sgriptwraig llenyddiaeth plant oed cynradd yn bennaf. Ganed ym Mhistyll, Llŷn, ac fe'i magwyd ym Mhontllyfni. Bellach mae hi wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon.

Bu'n ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Arfon cyn iddi fynd ynlaen i astudio ym Mhrifysgol Cymru Bangor. Derbyniodd dystysgrif Addysg o'r Coleg Normal, ag hefyd Ddiploma mewn cwnsela o Goleg Menai. Bu'n aelod hefyd o Theatr Ieuenctid Genedlaethol, Llundain.

Mae Mari wedi ysgrifennu niferoedd o straeon a sgriptiau ar gyfer cyfresi Dewch i Foli, Pot Jam a Be' Nesa'?! i Adran Addysg BBC Radio Cymru; sgriptiau ar gyfer cyfresi teledu oed Meithrin – Ffalabalam, Stori Sbri, Tŷ Chwith, Chwyrligwgan i HTV; pedair stori i gyfres Dwdl-Am i Deledu Antena ar CYW/S4C. Ar gyfer gwylwyr hŷn, mae Mari wedi deialogi sgriptiau teledu Xtra a Rownd a Rownd i Ffilmiau'r Nant, a hefyd Rhydeglwys i oedolion ar BBC Radio Cymru.

Ar gyfer y llwyfan, mae'n awdur sioe arswyd i blant, sef Siambaldrins!; dwy bantomeim, sef Rwj-Raj a Go Fflamia!; Croesi'r Afon/Crossing the River (sioe Feithrin wobrwywyd ym 1993 gan deledu LWT am ddod ar eu rhestr fer yn y London Weekend Television Plays on Stage Awards); a Henwalia (sioe gymuned i oedolion ar gyfer Theatr Bara Caws).

Mae cyfartaledd uchel o'r straeon y bydd Mari'n eu hadrodd yn rai gwreiddiol, wedi iddi hi'i hun eu creu, neu eu casglu a'u haddasu o'r gymuned mae'n byw ynddi. Y traddodiad llafar yw ei hysbrydoliaeth.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Awdur straeon Huwi Hurt yng nghomic PENBWL – Cyhoeddiadau Mei
Carwyn a'r Anrheg Nadolig (Gwasg y Lolfa, 1999)
Am Ddolig! (Gwasg y Lolfa, 2000)
Stori yng nghyfrol Stori Cyn Cysgu 2 (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z