Rhestr Awduron Cymru
SALISBURY, EURIG
Ffôn: 07816 044362
E-bost [adre]: eurig09@hotmail.co.uk
E-bost [gwaith]: e.salisbury@cymru.ac.uk

Prifardd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2006. Cafodd Eurig ei eni yng Nghaerdydd ond symudodd y teulu i Langynog, ger Caerfyrddin, pan oedd yn chwech oed. Yn 13 oed dysgodd ei hun i gynganeddu gyda chymorth Clywed Cynghanedd gan Myrddin ap Dafydd ac mae wedi ennill nifer o wahanol wobrwyon mewn eisteddfodau bach a mawr, o gadeiriau’r ifanc yn Llambed i’r englyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2005, ynghyd â chadeiriau bychain, gan gynnwys tair o gadeiriau’r Eisteddfod Rhyng-golegol. Bu Eurig yn un o’r beirdd ifanc ar y daith Crap ar Farddoni 2006 ynghyd â Catrin Dafydd, Hywel Griffiths, Aneirin Karadog, a Iwan Rhys. Cyhoeddwyd y cerddi hyn mewn detholiad o’r un enw. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Llyfr Glas Eurig, yn 2008. Mae Eurig yn gymrawd ymchwil ac yn aelod o dîm Prosiect Guto’r Glyn yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Crap ar Farddoni (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)
Cyfres Papurau Ymchwil Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd: 27. Ar Drywydd Guto'r Glyn Ap Siencyn y Glyn (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2007)
Llyfr Glas Eurig (Barddas, 2008)
Sgrwtsh! (Gwasg Gomer, 2011)
Cyhoeddiadau Eraill:
Crap ar Farddoni (cyfrannwr, Gwasg Carreg Gwalch, 2006)
Adolygiadau:
"Yr hyn sy’n taro rhywun gyntaf yw ei ddawn aruthrol fel cynganeddwr. Dawn, a mwynhad pur yn ymarfer ei ddawn" - Dafydd John Pritchard, Gwales.com, yn trafod Llyfr Glas Eurig
Llyfr Glas Eurig (Barddas, 2008)
Cyfansoddwyd y cerddi sy'n y gyfrol hon rhwng 1997 a 2008, ac maent yn cynnig cipolwg diddorol ar fywyd bardd ifanc yng Nghymru ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darllen a thrafod ei farddoniaeth
2. Gweithdai barddoniaeth (a chynghanedd yn benodol)
3. Barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol
Oedran y Gynulleidfa: disgyblion ysgol / oedolion / cymdeithasau



