Rhestr Awduron Cymru

GOWER, JON

71b Romilly Road, Treganna, Caerdydd, CF5 1FL
Email: jongower@rocketmail.com

Jon GowerDaw Jon Gower o Lanelli’n wreiddiol ac mae’n ysgrifennwr, darlledwr a chynhyrchydd radio gyda chwmni Boomerang yng Nghaerdydd. Yn ddiweddar, cynhyrchodd raglenni dogfen am fywyd yr actor o Holllywood, Robert Mitchum, a ’The Summer of Love’ am San Francisco yn 1967. Yn gyn-ohebydd celf a chyfryngau i BBC Cymru, mae Jon wedi ysgrifennu tri llyfr, wedi golygu pedair cyfrol ac wedi ysgrifennu un drama lwyfan a dwy ddrama radio. Caiff ei gyfol, Porthladdoedd, a dderbyniodd ganmoliaeth uchel gan dri beirniad cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith 2008, ei gyhoeddi eleni.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Dala'r Llanw (Gomer, 2009)

Adolygiadau:

'Fel llyfr taith gan rywun ar sbîd, cawn ein cymryd ar ras trwy bentwr o storïau, ffantasïau, ffeithiau hanesyddol a disgrifiadau daearyddol a phensaernïol o'r tair dinas'.
Aled Islwyn 

'Hwn oedd y gwaith a roddodd y wefr fwyaf i mi. Yn y gyfrol hon y mae ffresni a beiddgarwch dychymyg anhygoel.'
Aled Jones-Williams

'Rwy'n hoff iawn o hiwmor yr awdur…Does dim amheuaeth nad dyma awdur mwyaf dychmygus y gystadleuaeth.'
Catrin Beard 


Dala'r Llanw (Gomer, 2009)
Buenos Aires, Oakland a Chaerdydd: Tair dinas sy'n llawn dop 'da storïau (mae ambell un yn wir, ond sdim ots am hynny...). O dipyn i beth, drwy'r bwrlwm, cawn ein tywys ar daith ryfedd ar draws y byd, i fydoedd dieithr, cyfarwydd a chyffrous.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.

 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z