Rhestr Awduron Cymru
JONES, NERYS ANN
Ganed a magwyd Nerys Ann Jones yn Bow Street, Ceredigion. Yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caeredin, mae Nerys yn dysgu Cymraeg Canol yn yr Adran Geltaidd yno. Mae hi’n gyd-olygydd ar gyfres The Library of Medieval Welsh Literature a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru.
Detholiad o Gyhoeddiadau :
Oedi - yng Nghwmni Beirdd Pentrefi Gogledd Ceredigion (gol. Y Lolfa, 1992)
Medieval Welsh Perspectives - The Horse in Celtic Culture (gyda Sioned Davies; Gwasg Prifysgol Cymru, 2008)
Hywel ab Owain Gwynedd: Bardd-Dywysog (gol.) (Gwasg Prifysgol Cymru, 2009)
Hywel ab Owain Gwynedd: Bardd-Dywysog
Nerys Ann Jones yw golygydd y gyfrol hon, y cyntaf un erioed i ganolbwyntio ar y bardd serch a'r tywysog a ysbrydolodd feirdd a llenorion, gan gynnwys Goronwy Owen, Iolo Morganwg a T. Gwynn Jones.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


