Rhestr Awduron Cymru
JENKINS, GERAINT H.
Y mae’r Athro Geraint H. Jenkins FBA yn frodor o Benparcau, Aberystwyth. Fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru ym 1993. Cyn hynny yr oedd yn Athro ac yn Bennaeth Adran Hanes Cymru ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Y mae wedi cyhoeddi dros ddeg ar hugain o lyfrau a thros gant o erthyglau ar amrywiol bynciau. Y mae wedi cyhoeddi’n arbennig o helaeth ar hanes Cymru yn y cyfnod modern cynnar a’r cyfnod modern. Yn gredwr cryf mewn prosiectau ymchwil cydweithredol, y mae’n olygydd ar dair cyfres lwyddiannus – Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg, Diwylliant Gweledol Cymru ac Iolo Morganwg a’r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru – a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru. Y mae wedi ysgrifennu gweithiau arobryn ar Gymru yn y cyfnod modern cynnar, ar grefydd a llenyddiaeth, ac y mae ei gyhoeddiad diweddaraf, a
gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caer-grawnt, yn ddadansoddiad o holl hanes Cymru o’r cychwyn cyntaf. Ef yw golygydd y gyfres Cof Cenedl: Ysgrifau ar Hanes Cymru. Rhwng 1993 a 2007 bu’n Gadeirydd a Chyfarwyddwr Ymchwil Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru. Fe’i hetholwyd yn Gymrawd gan yr Academi Brydeinig yn 2002 ac y mae ar hyn o bryd yn aelod o Gyngor yr Academi Brydeinig. Y mae hefyd yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Cymru, Abertawe. Yn weinyddwr profiadol ac yn ddarlledwr cyson ar radio a theledu, y mae’r Athro Jenkins yn byw ym Mlaen-plwyf ac yn ymddiddori mewn cerddoriaeth, chwaraeon a garddio.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Thomas Jones yr Almanaciwr (Caerdydd, 1980)
Hanes Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar (Caerdydd, 1983)
Cadw Tŷ mewn Cwmwl Tystion (Llandysul, 1990)
Prifysgol Cymru: Hanes Darluniadol (Caerdydd, 1993)
The Foundations of Modern Wales (Oxford Paperbacks, 1993)
Diwylliant Gweledol Cymru (gol., 6 cyf., Caerdydd, 1997–2003)
Doc Tom: Thomas Richards (Caerdydd, 1999)
Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg (gol., 11 cyf., Caerdydd, 1997–2000)
Doc Tom: Thomas Richards (Caerdydd, 1999)
A Concise History of Wales (Cambridge University Press, 2007)
A Concise History of Wales (Cambridge University Press)
Cyfrol sy'n adrodd hanes Cymru o'r cyfnod cynharaf hyd agor y Senedd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2006. Mae'n bwrw golwg ar dwf Cymru fel cenedl, a'r gweddnewidiadau a wnaed gan ei phoblogaeth ar hyd y canrifoedd.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


