Rhestr Awduron Cymru
DAVIES, ALED LLOYD
Daw Aled Lloyd Davies o Feirionydd ac er fod ei wreiddiau’n ddwfn yno, a’i fod wedi treulio rhan helaethaf ei oes yno, erbyn hyn mae’n byw ac yn gweithio yn Sir y Fflint. Bu’n athro ac yn brifathro ysgol. Bu’n eisteddfodwr brwd fel cystadleuydd a beirniad, ac yn ddiweddarach, trwy ddal rhai o brif swyddi’r Brifwyl. Fe wnaeth gyfraniad hefyd i faes diwylliant gwerin Cymru trwy ymchwilio i hanes a datblygiad canu gyda’r tannu dros y blynyddoedd. Derbyniodd raddau gan Brifysgol Cymru am y gwaith hwnnw. Mae hefyd yn lais cyfarwydd i bawb sy’n ymddidddori mewn cerdd dant.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Pwyso ar y Giat (Gwasg y Bwthyn, 2008)
Pwyso ar y Giat (Gwasg y Bwthyn, 2008)
Yn yr hunangofiant hon, cawn ddilyn bywyd Aled Lloyd Davies o'i wreiddiau ym Meirionnydd i ddyffryn Clwyd a sir y Fflint.


