Rhestr Awduron Cymru
DAVIES, JOANNA
Daw Joanna o Gwm Gwendraeth. Mynychodd Ysgol Gyfun Ddwyieithog Maesyryrfa, Cefneithin cyn mynd i Brifysgol Aberystwyth lle astudiodd Ysgrifennu Creadigol o dan Mihangel Morgan a John Rowlands. Yna astudiodd am MPhil mewn Ffilm a Theledu cyn gweithio am ddeng mlynedd fel Cynhyrchydd Teledu i ITV1 Cymru, S4C a BBC Cymru. Bellach mae’n gweithio fel Uwch Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau i Gyngor Celfyddydau Cymru.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Taff Pac (Y Lolfa, 2000)
Ffreshars (Gwasg Gomer, 2008)
Mr Perffaith (Gomer, 2011)
Adolygiadau:
"Reiat o nofel yn llawn asbri dyddiau coleg - ond nid i'r gwangalon!" Caryl Lewis, yn trafod Ffreshars
"Ma Ffreshars yn dechrau fel dyddiadur tri ffrind yn mynd i'r coleg ond yn cyrraedd lle annisgwyl o dywyll cyn y diwedd. Bechgyn drwg a merched gwaeth - tydi coleg yn hunllef!?" Llwyd Owen
Freshars (Gwasg Gomer, 2008)
Dyma stori oesol am ddarganfod poenau a phleserau rhyw, alcohol a chyffuriau, a dathlu ieuenctid i'r eithaf er gwaetha'r canlyniadau. Ond mae hefyd yn nofel am herio confensiynau, wynebu cyfrifoldeb a thalu'r pris.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi


