Rhestr Awduron Cymru
JONES, J. TOWYN
Gweinidog gyda’r Annibynwyr yw J. Towyn Jones. Mae hefyd yn ddarlithydd poblogaidd ac yn llais cyfarwydd ar y radio a theledu. Mae’n Llywydd Cymdeithas Hynafiaethau Sir Gaeryrddin, Cadeirydd Cymdeithas y Siorsiaid ac mae’n aelod o’r Ghost Club enwog yn Llundain.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Cyfres Dal y Gannwyll: Borley Cymru (Gwasg Carreg Gwalch, 2001)
Rhag Ofn Ysbrydion - Chwilio am y Gwir am Straeon Ysbryd (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2008)


