Rhestr Awduron Cymru
DANIELS, NICHOLAS
Awdur plant Cymraeg. Magwyd yn Llangennech a mynychodd Ysgol Gynradd Llangennech ac Ysgol Gyfun y Strade. Mae’n byw yng Nghaerdydd ac yn ddirprwy bennaeth yn Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James, Pontypridd. Ystyriai ei hun yn ’awdur damweiniol’ am iddo ysgrifennu ei lyfr cyntaf er mwyn annog plant ei ddosbarth i ddarllen llyfrau Cymraeg. Mae ei lyfr diweddaraf, sef Y Llyfr Ryseitiau: Gwaed Y Tylwyth, wedi ennill yn y categori cynradd yng nghystadleuaeth Tir na n-Og 2008. Dywedwyd gan y beirniaid: "Roedd y panel o’r farn fod y gyfrol hon yn torri tir newydd yn ysgrifennu Cymraeg gan gynnig cyfuniad difyr o’r hen chwedlau Cymreig a byd hudolus, tebyg i fyd Harry Potter".
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Cyfres Fflach Doniol : Gornest Reslo’r Menywod Cinio (Dref Wen, 2002)
Cyfres Fflach Doniol: Melltith y Fenyw Ginio (Dref Wen, 2004)
Cyfres Fflach Doniol: Ysgol Lol (Dref Wen, 2005)
Sialens Siôn Corn (Dref Wen, 2005)
Y Llyfr Ryseitiau: Gwaed y Tylwyth (Dref Wen, 2007)
y Brodyr Bendigedig a'r Hwdwch Hyll (Dref Wen, 2009)


