Rhestr Awduron Cymru

DAVIS, MARTIN

Martin DaviesMae Martin yn byw yn Nhre Taliesin ger Machynlleth, ond fe’i ganed yn Llanrwst a’i fagu yn Stratford upon Avon. Mae’n gyfieithydd llawrydd wrth ei waith ac yn awdur nifer o gyfrolau i blant, barddoniaeth, straeon byrion a nofelau.




Detholiad o Gyhoeddiadau:
Seros (Y Lolfa, 1991)
Seros (Y Lolfa, 1992)
Rhithiau (Y Lolfa, 1993)
Brân ar y Crud (Y Lolfa, 1995)
Os Dianc Rhai (Y Lolfa, 2003)
Gruffudd (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)
Tonnau Tryweryn (Y Lolfa, 2008)

Adolygiadau:

"Dyma adroddwr stori heb ei ail, yn rhoi inni chwip o nofel afaelgar a byrlymus sy'n ein hysgubo i fywydau tri chymeriad cofiadwy ar lwyfan yr Ail Ryfel Byd yn yr Almaen, Sbaen, Rhydychen, Trefriw a Phen Llŷn." Gwenllian Dafydd yn trafod Os Dianc Rhai




Tonnau Tryweryn (Y Lolfa, 2008)
Trwy lygaid Mefina, Emlyn a Des cawn hanes cyfnod y 1950au hyd at 2007, a boddi Cwm Tryweryn yn gefndir i'w helyntion carwriaethol a theuluol.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.



Os Dianc Rhai
(Y Lolfa, 2003)
Nofel hanesyddol afaelgar a byrlymus sy'n ein hysgubo i fywydau tri chymeriad cofiadwy ar lwyfan yr Ail Ryfel Byd yn yr Almaen, Sbaen, Rhydychen, Trefriw a Phen Llyn.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z