Rhestr Awduron Cymru
HOPWOOD, MERERID
Fe’i ganed yng Nghaerdydd; derbyniodd ei haddysg gynnar yn ysgolion Bryntaf a Llanhari, cyn mynd ymlaen i’r coleg yn Aberystwyth. Wedi cyfnod yn University College yn Llundain, derbyniodd radd doethur mewn Llenyddiaeth Almaeneg. Bu’n ddarlithydd Almaeneg yng Ngholeg Prifysgol Abertawe ac yn bennaeth ar swyddfa gorllewin Cymru Cyngor y Celfyddydau cyn ymadael i weithio fel awdur a darlithydd ar ei liwt ei hun. Yn 2001 enillodd Gadair Eisteddfod Dinbych a’r cylch am ei hawdl "Dadeni" – y ferch gyntaf erioed i gyflawni’r fath gamp. Mae’n aelod o fwrdd Barddas ac yn frwd o blaid poblogeiddio’r cynganeddion, yn arbennig ymhlith merched a phobl ifainc. Hi oedd Bardd Plant Cymru 2005. Fe enillodd Mererid Medal Ryddiaith Eisteddfod Caerdydd a’r Cylch 2008 gyda’i nofel O Ran. Hi yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiath.
Yn 2003, ymddangosodd ei cherdd, "Dadeni", yn y ffilm Dal Yma: Nawr, ymysg actorion a cherddorion megis Siân Phillips, Ioan Gruffudd, Matthew Rhys a Rhys Ifans.
Bu Mererid yn dysgu fel athrawes Sbaeneg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Caerfyrddin, nes Jonawr 2010. Mae hi'n dal i ddarlithio yn Ngholeg y Drindod, ac yn Gymrawd yr Academi.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Singing in Chains (Gomer, 2005)
Caneuon y Coridorau (cyd awdur; Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
Plentyn (Gwasg y Dref Wen, 2005)
O'r Mor i Ben y Mynydd (Gwasg Gomer, 2006)
Y Tandem Hud (Gwasg Gwynedd, 2006)
Ar Bwys (Gwasg Gomer, 2007)
O Ran (Gwasg Gomer, 2008)
Dwdl-mi-do (Gwasg Gwynedd, 2009)
Trysor Mam-gu (Gwasg Gomer, 2010)
Cyfres Dydd Sbri Un: Gwersylla (Y Lolfa, 2010)
Cyfres Dydd Sbri Dau: Y Sw (Y Lolfa, 2010)
Cynghanedd i Blant (Cyhoeddiadau Barddas, 2010)
Cyhoeddiadau Eraill:
Johann Peter Hebel and the Rhetoric of Orality (Stuttgart, 1994)
Sarah Kirsch (cyd–olygydd David Basker) 1997
Cyfieithiadau o gerddi yn Und suchte meine Zunge ab nach Worten (gol. Andrea McTigue; Berlin, 1996)
Hon: Ynys y Galon, Delweddau o Ynys Gwales yng Ngwaith Iwan Bala (cyfrannwr; Gwasg Gomer, 2007)
Adolygiadau:
"Llyfr swynol, dirdynnol, lle mae meddwl yn troi'n emosiwn fel yng ngweithiau George Eliot a Kate Roberts. Dyma gyfrol fydd, yn ddi-os, yn cyfoethogi ein llên gyfoes." Aled Jones Williams (yn trafod O Ran)
"…drwodd a thro mae'r nofel hon yn taro deuddeg mewn ffordd synhwyrus a barddonol." Aled Islwyn (yn trafod O Ran)
"Fe'm hudwyd gan y nofel hon." Catrin Beard (yn trafod O Ran)
O Ran (Gwasg Gomer, 2008)
Enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Caerdydd A'r Cylch yn 2008.
Ar y trên rhwng Paddington a Chaerdydd, mae Angharad Gwyn yn darllen trwy broflenni cyfrol deyrnged i'w thad, Ifan, cerddor llwyddiannus. Wrth i ni ddarllen gyda hi, mae'n dechrau hel atgofion am ei phlentyndod anarferol yng Nghaerdydd
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
Singing in Chains (Gomer, 2005)
Astudiaeth o ddirgelion y grefft farddol y gynghanedd, a baratowyd ar gyfer y rhai nad ydynt yn medru'r Gymraeg.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


