Rhestr Awduron Cymru

EVANS, DYLAN FOSTER

Dylan Foster EvansPrif faes ymchwil Dr Dylan Foster Evans yw llên yr Oesoedd Canol diweddar. Ymddiddora yn arbennig ym marddoniaeth y Gogynfeirdd, Dafydd ap Gwilym a’r Cywyddwyr hyd at gyfnod y Dadeni Dysg. Mae ei ddiddordebau’n rhychwantu beirniadaeth lenyddol a golygu thestunau, ac roedd yn un o dîm o ysgolheigion a gyfrannodd at y golygiad digidol newydd ac arloesol o waith Dafydd ap Gwilym: www.dafyddapgwilym.net.

Cyn dod i Gaerdydd, bu ar staff Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth lle roedd yn aelod o brosiect Beirdd yr Uchelwyr 1282-1526. Prif ffrwyth y cyfnod hwnnw yw dwy gyfrol o olygiadau: Gwaith Hywel Swrdwal a’i deulu (2000) a Gwaith Rhys Goch Eryri (2007). Mae hefyd wedi cyhoeddi erthyglau ar lên a diwylliant yr Oesoedd Canol mewn cyfnodolion a chyfresi megis Dwned, Cof Cenedl, Tu Chwith a Taliesin, yn ogystal â phapur ar y canu dychan Cymraeg. Mae ganddo hefyd ddiddordeb mewn theori lenyddol, ac mae wedi cyhoeddi ar ôl-drefedigaethedd ac ecofeirniadaeth. Maes arall y mae’n weithgar ynddo yw barddoniaeth gyfoes, a bu’n un o feirniaid y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a’r Cylch yn 2004.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Cyfraniad at www.dafyddapgwilym.net: golygiad o 35 cerdd a deunydd rhagymadroddol (Prosiect a ariennid gan yr AHRC: ‘A critical edition of the poetry of Dafydd ap Gwilym’, gol. cyffredinol Dafydd Johnston).
“Talm o Wentoedd”: the Welsh language and its literature in Gwent, c. 1070–1530’, tt. 281–309, yn “Y carl a’i trawai o’r cudd”: ergyd y gwn ar y Cywyddwyr, Dwned, 4 (1998), 75–105.
Y Bardd a’i Farf: y Traddodiad Barfol, Dwned, 2 (1996), 11–29.
Goganwr am Gig Ynyd: The Poet as Satirist in Medieval Wales (Aberystwyth, 1996).
Gwaith Llywelyn Ddu ab y Pastard’, tt. 169–212, yn Ann Parry Owen & Dylan Foster Evans (gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac Eraill (Aberystwyth, 1996).
Gwaith Hywel Swrdwal a’i deulu (gol.) (Aberystwyth, 2000).
Rhoi eich troed ynddi: camau cyntaf ar drywydd ffasiwn yng Nghymru’r Oesoedd Canol, Tu chwith, 14 (2000), 21–34.
Ail-lunio’r Cymry—y beirdd ar ôl methiant Glynd?r, Taliesin, 110 (2000), 43–57.
Gwlad y Gwn?: Cymru, y Canon a’r Dryll hyd at ddiwedd oes Elisabeth I, tt. 3–32, yn Geraint H. Jenkins (gol.), Cof Cenedl, xvii (Llandysul, 2002)
“Cyngor y Biogen”: Ecoleg a Llenyddiaeth Gymraeg, Llenyddiaeth Mewn Theori, 1(2006), 41–79.
“Bardd arallwlad”: Dafydd ap Gwilym a theori ôl-drefedigaethol, tt. 42–77, yn Owen Thomas (gol.), Llenyddiaeth Mewn Theori (Caerdydd, 2006).
Murder in the Marches: Poetry and the Legitimisation of Revenge in Fifteenth-century Wales, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium, 18 and 19 (2006), 42–72.
Gwaith Rhys Goch Eryri (gol.) (Aberystwyth, 2007).
Ralph A. Griffiths (gol.), The Gwent County History, ii: The Age of the Marcher Lordships, c. 1070–1536 (Caerdydd, 2008).

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z