Rhestr Awduron Cymru

ARAN, CATHERINE

12, Caerberllan, Braichmelyn, Bethesda, Gwynedd. LL57 3PS.
Ffon: (01248) 601 130 / 078 76 254 105
Ebost: catharan@btinternet.com

Catherine AranCyfarwydd/Storiwraig Gwobrwyol ac Awdur. Graddiodd Catherine mewn Drama o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ym 1988 a bu’n action am gyfnod o 8 mlynedd, gan gynnwys pum mlynedd fel un o aelodau llywiol Cwmni Theatr Bara Caws. Dechreuodd adrodd straeon ym 1999, ar ol cael ei phenodi fel Cyfarwydd i Gynllun Adrodd Stori, Cyngor Gwynedd. Erbyn heddiw, mae Catherine wedi teithio led led Cymru a thramor yn adrodd straeon mewn ysgolion, colegau, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, theatrau a chanolfannau cymdeithasol. Mae’n arwain gweithdai drama ac ysgrifennu stori er mwyn hybu llafaredd a llythrennedd i blant ysgol ac yn cynnig hyfforddiant ar sut i adrodd stori i oedolion a myfyrwyr, yn ogystal a bod yn siaradwr gwadd ar nifer o gyrsiau HMS i athrawon, (ar restr siaradwyr gwadd CBAC).

Mae hi wedi perfformio mewn Gwyliau Rhyngwladol i Blant yn Aberystwyth, Galway, Kilkenny, Dulyn a Calgary, Canada ac wedi ennill Gwobr Cymrodoriaeth yr ‘Arts Foundation’ 2009 mewn Adrodd Stori. Mae hi hefyd yn awdur pum llyfr i blant.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Idris y Cawr (Gwasg Gwynedd 2004)
Ganthrig Bwt y Wrach (Gwasg Gwynedd 2006)
Tywysoges y Twr (Gwasg Gwynedd 2008)
Y Ci Ffyddlon (Gwasg Gomer 2005)
Sbid (ACCAC 2007)

Cryno Ddisg –Storiau Pum Munud – (Tympan 2003)
DVD – Cawr y Carneddau – (NFER 2008) 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z