Rhestr Awduron Cymru

EDWARDS, HILMA LLOYD

Hilma Lloyd EdwardsEnillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008. Dyma’r ail waith iddi ennill y Gadair, a’r ail dro i hyn ddigwydd yn hanes y gystadleuaeth. Mae Hilma wedi ennill mwy na 50 o gadeiriau a choronau mewn eisteddfodau, gan gynnwys Eisteddfodau Môn, Powys, Pontrhydfendigaid a Llanbedr Pont Steffan. Ac mae hi wedi ennill sawl gwobr yn Adran Lên yr Eisteddfod Genedlaethol, gan gynnwys y delyneg a’r cywydd. Mae hefyd wedi cyhoeddi 12 o nofelau i blant.

Aeth Hilma i Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon. Derbyniodd radd dosbarth cyntaf mewn Hen Hanes ym Mhrifysgol Abertawe ac MA mewn Eifftoleg. Bu’n newyddiadura am gyfnod byr gyda Phapurau’r Herald yng Nghaernarfon cyn ymuno ag uned gyfieithu Cyngor Gwynedd. Ers pedair blynedd mae’n gyfieithydd gyda Chwmni Cymen, Caernarfon. Mae hi’n aelod o Orsedd y Beirdd (Urdd Cerddor) ers dyddiau ysgol ac yn Eisteddfod Sir y Fflint y llynedd cafodd ei dyrchafu i Urdd Derwydd.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Tir Newydd a Cherddi Eraill (Gwasg y Bwthyn, 2008)

Adolygiadau:

"Mae’r gyfrol yn llawn cyffyrddiadau clyfar, effeithiol, ac yn dangos ôl llaw bardd sydd o ddifrif am ei chrefft, a bardd nad yw’n ofn arbrofi." Hywel Griffiths, Gwales.com (yn trafod Tir Newydd a Cherddi Eraill)


Tir Newydd a Cherddi Eraill (Gwasg y Bwthyn, 2008)
Casgliad o farddoniaeth caeth a rhydd ar amryw o destunau.

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z