Rhestr Awduron Cymru
JONES, IFAN MORGAN
Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Caerdydd a’r Cylch 2008. Cafodd Ifan ei fagu yn y Waunfawr ger Caernarfon a’i addysgu yn Ysgol Gynradd Waunfawr, Ysgol Syr Hugh Owen a Phrifysgol Caerdydd lle graddiodd mewn newyddiaduraeth. Fe ddilynodd gwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor. Wedi cwrs newyddiaduraeth yn Newcastle dychwelodd i Gymru lle mae’n ddirprwy olygydd Golwg erbyn hyn.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Igam Ogam (Y Lolfa, 2008)
Yr Argraff Gyntaf (Y Lolfa, 2010)
Adolygiadau:
(yn trafod Igam Ogam)
"Storiwr wrth reddf sy'n feistr ar ei gyfrwng… Nofelydd gyda rhywbeth i'w ddweud a'r gallu i'w ddweud mewn ffordd gofiadwy a difyr."
Emyr Llywelyn
"Nofel aruchel lle mae dyfnder yn galw am ddyfnder... Awdur a'r "Drws Dychymyg" ar agor led y pen."
Harri Parri
"Dychymyg ffilmig, sgrin fawr, ffantasiol, wedi'i wreiddio yng Nghymru a'i phobl. Andros o nofel antur fywiog."
Meg Ellis
"Go brin fod yng Nghymru heddiw nofelydd mor wreiddiol a dyfeisgar a'r awdur hwn."
Emyr Llywelyn
Yr Argraff Gyntaf (Y Lolfa, 2010)
Caerdydd, 1977, ac mae'n wythnos fawr yn hanes y ddinas..
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
Igam Ogam (Y Lolfa, 2008)
Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2008. Pan gaiff Tomos Ap alwad ffôn gan ei dad mabwysiedig yn ei alw adref, mae'n amau mai cynllwyn yw'r cyfan i'w orfodi i gymryd gofal o'r fferm deuluol. Ond nid yw popeth fel y mae'n disgwyl..
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


