Rhestr Awduron Cymru

JONES, MYFANWY BENNETT


Ganed a magwyd Myfanwy Bennett Jones yn Amlwch a derbyniodd ei haddysg yn yr ysgol gynradd yno ac yn Ysgol Syr Thomas Jones. Bu’n gweithio yn llyfrgell Coleg Aberystwyth a chyda merched ar eu prawf yn Swydd Efrog cyn priodi â’r Parch. John Bennett Jones, ac ymgartrefu ym Mhen Llŷn am saith mlynedd. Symud yn ôl i Fôn wedyn, i Lanfair Pwllgwyngyll, lle mae’n dal i ymgartrefu. Treuliodd gyfnod fel cyd-arweinydd Ysgol Feithrin Llanfair, ac yna un mlynedd ar bymtheg fel gweinyddwraig cyrsiau yn Adran Addysg Prifysgol Bangor.


Detholiad o Gyhoeddiadau:
Briwsion - Ysgrifau a Rhai Cerddi (Gwasg y Bwthyn, 2008)
Bwrlwm Blwyddyn - Caneuon Crefyddol i Blant (gyda Ceri Gwyn; Gwasg Pantycelyn, 2000)


Adolygiadau:

"Dwy ysgrif a hoffais yn arbennig oedd ‘Yn Lerpwl’ a ‘Ffenestr’. Gan fod aelodau o’m teulu i wedi symud o Ynys Môn i Lerpwl, roedd gen i ddiddordeb yn yr ysgrif am berthynas i'r awdures oedd wedi mynd yno i weithio, a’r llythyrau yr anfonwyd ato gan ei dad, sydd ym meddiant yr awdures erbyn hyn. Cawn gip ar hanes Cymry Lerpwl yma, a’r cysylltiad agos sydd rhwng y ddinas a Gogledd Cymru." Nest Gwilym, Gwales.com, yn trafod Briwsion


Briwsion

Briwsion (Gwasg y Bwthyn, 2008)
Casgliad o ysgrifau a cherddi, rhai ohonynt wedi'u lleoli yng ngogledd Môn, eraill yn Llŷn, a rhai yn Lerpwl.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.






Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z