Rhestr Awduron Cymru
JONES, JANICE
6, Hendyrpeg, Tregarth, Bethesda, Gwynedd LL57 4NN
Ffôn: 01248 602140/ 07810476407
Ebost: camlas@hotmail.com
Ganed Janice ym Mangor, ond bu’n byw yn Nhregarth ger Bethesda ers dros ugain mlynedd. Bu Janice yn gweithio yn Adran Wisgoedd Cwmni Theatr Cymru, gyda’r Mudiad Ysgolion Meithrin, gyda Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd, ac yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru Bangor, yn ogystal â magu pedwar o blant. Dychwelodd i fyd addysg yn fyfyrwraig aeddfed ac mae bellach yn astudio ar gyfer doethuriaeth ym maes Llenyddaeth Gymraeg gyfoes. Mae hefyd yn y broses o gychwyn busnes ei hun, Gair yn ei Bryd.
Cyhoeddodd Janice ei nofel gyntaf, Pin-yp, yn 2004, a bellach mae nofel gywaith y bu Janice yn gyfrifol am ei dyfeisio, ei chydlynu a’i chyd-ysgrifennu, Nerth Bôn Braich, wedi ei chyhoeddi. Mae hi hefyd wedi ennill cystadleuaeth ysgrifennu drama fer yn Eisteddfod Dyffryn ogwen ac wedi llunio sgript lwyfan dan nawdd Cynllun Drafft Cyntaf Theatr Bara Caws. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar nifer o brosiectau ysgrifennu.
Cyhoeddiadau:
Pin-yp (Gwasg y Bwthyn, 2004)
Nerth Bôn Braich (Gwasg y Bwthyn, 2008)
Adolygiadau:
“Mae ôl awdures sy’n feistres ar ei defnydd yn amlwg yma!”
Gwenllian Dafydd, Gwales.com, yn trafod Pin-Yp
“ .. yn llawn brwydrau corfforol ac emosiynol..”
Eiry Miles, BBC Cymru'r Byd, yn trafod Nerth Bôn Braich
Pin-Yp (Gwasg y Bwthyn, 2004)
Nofel ddifyr am ddeuddeg aelod o gangen lleol Merched y Wawr sy'n penderfynu codi arian i achub neuadd y pentref trwy gael tynnu eu lluniau yn hanner-noeth ar gyfer calendr.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


