Rhestr Awduron Cymru

ROBERTS, EMLYN GOMER

Ebost: em_gom@hotmail.com

Actor, awdur a cherddor. Brodor o Feirionnydd, bellach yn byw yng Nghaernarfon. Graddiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Ysgrifennodd chwe drama lwyfan, sgriptiau amrywiol i radio a theledu, caneuon i’r grwp Gwerinos, mynych gerddi amheus eu naws ar gyfer stompiau, a dwy nofel.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Ar Drywydd y Duwiau (Gwasg Gwynedd, 2010)
Y Ddraig Goch (Gwasg Gwynedd, 2006)



Adolygiadau:

"Fe wnes i fwynhau'r nofel hon o’r dechrau i’r diwedd. Mae hi’n haerllug, yn ffres, yn wahanol ac yn hynod o ddoniol."
Lyn Ebenezer, Gwales.com, yn trafod Y Ddraig Goch
 
 

Y Ddraig GochY Ddraig Goch (Gwasg Gwynedd, 2006)
Nofel dditectif dafod-yn-y-boch sy’n dilyn hynt a helynt Jaci Nora wrth iddo geisio darganfod pam fod cymaint o bobol yn methu aros yn fyw yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerlloi.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z