Rhestr Awduron Cymru

JONES, BET

Bet JonesDaw Bet Jones yn wreiddiol o Drefor, ond mae bellach yn byw yn Rhiwlas ger Bangor.Mae'n athrawes yn Ysgol y Graig. Fe ddaeth ei chyfrol gyntaf, Beti Bwt (Y Lolfa, 2008) yn ail yng nghystadleuaeth Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint a’r Cyffiniau 2007.


 Detholiad o Gyhoeddiadau:
Beti Bwt (Y Lolfa, 2008)
Gadael Lennon (Y Lolfa, 2009)


Adolygiadau:

 "… mae'r cynildeb wrth iddi son am fwlio a cham-drin yn llenyddiaeth ar ei orau..." - John Gruffydd Jones yn trafod Beti Bwt

"Mae hwn yn waith hynod ddarllenadwy... yn llawn disgrifiadau trawiadol... Dyma awdures a chanddi ddawn ysgrifennu digamsyniol." - Angharad Price yn trafod Beti Bwt

"Mae’r disgrifiadau o Lerpwl yn taro deuddeg, ac mae Bet Jones yn sicr wedi llwyddo i gyfleu blas cyfnod a lle." - Mared Lewis, Gwales.com, yn trafod Gadael Lennon



Gadael Lennon (Y Lolfa, 2009)
Dyma ddilyniant i "Beti Bwt". Mae'r Beatles ar eu hanterth a Liz (fel mae ei ffrindiau'n ei galw) yn ei harddegau yn darganfod rhyddid ieuenctid mewn cyfnod cyffrous yn Lerpwl..
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.





Beti Bwt (Y Lolfa, 2008)
Dyma nofel am blentyntod mewn pentref chwarelyddol yn ystod y 1950au yn llais yr hoffus a'r ddiniwed Beti Bwt. Daeth y gyfrol yn ail yng nghystadleuaeth Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi. 





 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z