Rhestr Awduron Cymru

ROBERTS, GRACE

Gerallt, 16 Brynffynnon, Y Felinheli, Gwynedd. LL56 4SX
Ffôn:  01248 670858

Grace RobertsAwdur ac ymchwilydd.  Ganed ym Mhenysarn, Môn, ac addysgwyd yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, a Choleg y Brifysgol, Bangor.  Bu’n llyfrgellydd am ddeng mlynedd mewn llyfrgelloedd prifysgol a llyfrgelloedd sir.  Enillodd nifer o wobrau eisteddfodol yn cynnwys Medal Ryddiaith Eisteddfod Môn Bro’r Frogwy 1988, a chystadleuaeth y stori fer yn yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith.  Bu’n sgriptio i Pobol y Cwm am ddeng mlynedd, a chyfrannodd gwpwl o sgriptiau i Pengelli.  Hefyd darlledodd nifer helaeth o sgyrsiau radio.  Cyhoeddodd gyfrol o’i sgyrsiau radio, cyfrol o’i storiau byrion, a dwy nofel.  Ymddangosodd nifer o erthyglau a storiau byrion eraill o’i heiddo mewn cylchgronau, papurau newydd a detholiadau, a charai gasglu rhai o’r rhain yn gyfrol.  Mae’n ymchwilio hanes a gwaith yr awdures Eingl-Gymreig Megan Glyn, ac wedi ail-afael mewn ysgrifennu ar ôl cyfnod o afiechyd.  Enillydd Medal Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2010 gyda’r nofel Adenydd Glöyn Byw.


Detholiad o Gyhoeddiadau:

Sgyrsiau Hogiau yn Bennaf (Carreg Gwalch, 1985)
Rhodd o Ferch (Mei, 1988)
Dyddiau Teisen Bwdin (Mei, 1989)
Drysfa (Gwasg Gwynedd, 1991)
Adenydd Glöyn Byw (Gwasg Gomer, 2010)



Adolygiadau (ar gyfer Adenydd Glöyn Byw):


"Un o ofynion y gystadleuaeth hon yw bod y nofel fuddugol yn meddu ar "linyn storïol cryf" ac yn hynny o beth mae Adenydd Glöyn Byw yn taro'r hoelen ar ei phen. "
Lowri Roberts, BBC Cymru

"Nofel ddeallus a darllenadwy"
Gareth Miles

"Mae ganddi glust arbennig i dafodiaith"
Jane Edwards

"Mae camp arbennig ar y ddeialog sionc . . ."
Alwena Williams



Adenydd Glöyn Byw (Gwasg Gomer, 2010)
Mae nain, mam a merch yn byw o dan yr unto. Wrth ddilyn eu helyntion dros flwyddyn, cyflwynir golwg gadarnhaol ar bosibiliadau bywyd - cyhyd â bod y glöyn byw hwnnw'n ofalus…

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.







….......

Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Plwc a Chadair Olwyn: Megan Glyn a’i nofelau (oedolion)
2. Darlleniadau o sgyrsiau radio (cymdeithasau megis Merched y Wawr)
3. Cyfrol Medal Goffa Daniel Owen 2010
4. Trafod ei gwaith

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z