Rhestr Awduron Cymru

ROS, MANON STEFFAN

Manon Steffan RosDramodydd ac awdur. Magwyd Manon yn Rhiwlas, Dyffryn Ogwen, ac mae hi bellach yn byw ym Mhennal, Bro Dysynni, gyda'i gŵr a dau o feibion. Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfodau Cenedlaethol Eryri ac Abertawe. Cipiodd y wobr Tir na n-Og 2010 am ei nofel i blant, Trwy'r Tonnau (Y Lolfa). Fel Aderyn (Y Lolfa, 2009) oedd ei nofel gyntaf i oedolion ag ymddangosodd ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2010.


Detholiad o Gyhoeddiadau:
Cyfres yr Onnen: Trwy’r Darlun (Y Lolfa, 2008)
Fel Aderyn (Y Lolfa, 2009)
Cyfres yr Onnen: Trwy'r Tonnau (Y Lolfa, 2010)
Cyfres yr Onnen: Bwysfilod a Bwganod (Y Lolfa, 2010)
Cyfres yr Onnen: Prism (Y Lolfa, 2011)


Adolygiadau:
"Nofel gain a thyner yw hon – yn darlunio heb felodrama y gobaith a’r siom, y cyfrinachau a’r trasiedïau, y cyffro a’r cyfaddawd sy’n debyg i hanes ein teuluoedd ni oll." 
Sioned A. Williams, Gwales.com, yn trafod Fel Aderyn

"nofel sy'n darbwyllo… clamp o stori dda…"
Nia Peris, yn trafod Fel Aderyn

"Nofel gyffrous, llawn dychymyg…"
Mair Williams, yn trafod Trwy'r Tonnau
 


Prism (Y Lolfa, 2011)
"Mae nofel newydd Manon Steffan Ros yn un a ysgrifennwyd mewn ymdrech arbennig i ddenu mwy o fechgyn ifanc i ddarllen nofelau Cymraeg.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.



Fel Aderyn

Fel Aderyn (Y Lolfa, 2009)
Nofel sy'n dilyn hynt a helynt Mina a'i theulu yn ystod yr ugeinfed ganrif. Cawn hanes ei mam a'r modd y collodd ei gŵr yn yr Ail Ryfel Byd. Cawn hefyd stori Sybil, sy'n dod yn feichiog yn dilyn perthynas gydag athro..

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


Trwy'r Darlun
(Y Lolfa, 2008)
Yn y nofel hon awn gyda Cledwyn a Sian drwy'r darlun ac ar hyd twnnel i wlad Crug. Yno, cawn gwrdd a Gili Dw caredig - cymeriad rhychiog a moel, byr ond hynod o gryf. Mae'n eu hachub nhw rhag y creaduriaid peryglus a chyflym, yr Abarimon.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
 

Trwy'r Tonnau (Y Lolfa, 2009)
Enillydd y Wobr Tir na n-Og 100, dyma nofel fywiog i blant a phobl ifanc yn dilyn hanes Cledwyn, Siân a Gili Dŵ wrth iddynt fynd ar antur arall i wlad hudol Crug, sy’n llawn creaduriaid gwahanol.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.







Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z