Rhestr Awduron Cymru

JONES, RICHARD WYN

Yr Athro Richard Wyn JonesDarlithydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle mae’n Gyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru.  Mae’n awdur dwy gyfrol ar wleidyddiaeth ryngwladol yn ogystal â nifer fawr o ysgrifau sy’n trafod agweddau amrywiol ar wleidyddiaeth Cymru.

Roedd ei gyfrol, Rhoi Cymru’n Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007) ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008.


Detholiad o Gyhoeddiadau:
Methiant Prifysgolion Cymru (Sefydliad Materion Gymreig, 2004)
Rhoi Cymru’n Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007)
Tywysogion (gyda Huw Pryce a Spencer Smith; Hughes, Caerdydd, 2007)


Adolygiadau:

"Cyfrol gampus yw hon, sy’n byrlymu a syniadau arloesol a sylwadau treiddgar."
Robin Okey, Gwales.com, yn trafod Rhoi Cymru'n Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru


Rhoi Cymru’n Gyntaf: Syniadaeth Plaid CymruRhoi Cymru'n Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007)
Yn y gyfrol arloesol hon mae Richard Wyn Jones yn olrhain datblygiad syniadaeth Plaid Cymru o’i geni yn 1924-5 hyd at sefydlu Cynulliad Genedlaethol Cymru yn 1999.  Dyma lyfr sy’n bwrw goleuni newydd, dadlennol a dadleuol ar y Blaid.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z