Rhestr Awduron Cymru

EDWARDS, DYFED

Ebost: dyfededwards@yahoo.co.uk
Ewch yma
 ar gyfer manylion trefnu digwyddiad

Magwyd Dyfed Edwards ym mhentre Rhosmeirch, ger Llangefni, ac erbyn hyn mae’n byw yn Whitstable, Swydd Caint.  Dechreuodd ei yrfa newyddiadurol gyda Phapurau’r Herald yng Nghaernarfon, ac mae wedi gweithio i’r Daily Post (yn Lerpwl ac yng Ngogledd Cymru), i’r Journal yn Newcastle, ac i’r Daily Mail.  Ar hyn o bryd mae’n gwneud ei fywoliaeth fel awdur a newyddiadurwr ar ei liwt ei hun.  Bu hefyd yn ganwr gyfansoddwr, a rhyddhaodd dri chasét/LP yn yr 80au a’r 90au, gan gynnwys Gwlad Yr Addewid, gynhyrchwyd gan Elwyn Williams o Fand Steve Eaves ac Enw Da Geraint Lovgreen. Enillodd Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008 am ei ddrama hir Cors Oer. Cipiodd y wobr unwaith eto yn y Bala yn 2009 am ei ddrama Tân Mewn Drain. Mae pedair o’i nofelau a dwy gyfrol o’i straeon wedi eu cyhoeddi. Cyhoeddwyd dwy gyfrol ffeithiol ganddo yn ogystal, sef Dynion Dieflig, yn Hydref 2008, ac Y Gwaethaf O'r Gwaethaf, yn y gyfres Stori Sydyn, yn 2009.

Cyhoeddiadau:
Dant At Waed (Y Lolfa, 1996)
Cnawd A Storïau Eraill (Y Lolfa, 1997)
Y Syrcas (Y Lolfa, 1998)
Llwybrau Tywyll (Y Lolfa, 1999)
Hen Friwiau (Carreg Gwalch, 2002)
Y Moch A Straeon Eraill (Carreg Gwalch, 2007)
Dynion Dieflig (Y Lolfa, 2008)
Peter Moore - Y Gwaethaf O'r Gwaethaf (Y Lolfa, 2009)

Dramau Radio:
Cors Oer (BBC Radio Cymru, 2010)
Anfonwch Fil (BBC Radio Cymru, 2011)

Dramau Llwyfan:
Tân Mewn Drain (Sherman Cymru, Mehefin 2011)


Adolygiadau:


“Dychryn a gwae – bendigedig … Byddwn yn annog pawb i ddarllen y gyfrol hon … ”
Llinos Dafydd (Llais Llên, bbc.co.uk) yn trafod Y Moch a Straeon Eraill



Peter Moore - Y Gwaethaf O'r Gwaethaf (Y Lolfa, 2009)

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z