Rhestr Awduron Cymru
LITTLE, AWEN
Ebost: awen.little@btinternet.com
Ganwyd Awen yng Nghaerfyrddin lle fuodd yn ddisgybl yn Ysgol y Dderwen a Ysgol Ramadeg y Merched. Graddiodd yn Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe. Sid the Sock Eating Monster yw ei llyfr cyntaf. Mae’r llyfr yn cael ei ddefnydddio yn barod gan Goleg y Drindod gan y myfyrwyr ar ymarfer dysgu. Mae fersiwn Gymraeg o’r llyfr yn cael ei baratoi, Sid y Bwystfil Bwyta Sanau.
Dywed Carys Richards, Darlithydd Hyfforddiant Addysg Gychwynnol Athrawon am Sid the Sock Eating Monster:
"Rydym wedi cyflwyno’r llyfr fel rhan o’n modylau "Cyfnod Sylfaen" yn y Coleg. Gwnaethom ei ddefnyddio fel man cychwyn i thema. Mae ei ddefnyddioldeb yn ddi-ddiwedd ar gyfer gweithgareddau plant ifanc gan ei fod yn cynnig cynifer o wahanol is-themau megis: amser, lliwiau, teimladau, anifeiliaid anwes, patrymau a diogelwch. Darluniwyd y llyfr gan Therese James o Lanelli."
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Sid The Sock Eating Monster (Author House, 2007)


