Rhestr Awduron Cymru
JONES, EIRIAN
Magwyd Eirian Jones ar y Mynydd Bach yng Ngheredigion. Wedi gyrfa fel athrawes yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys cyfnod fel pennaeth ysgol gynradd, mae bellach yn gweithio fel golygydd llyfrau Saesneg. Cyhoeddwyd tair cyfrol o'i gwaith eisoes, The War of the Little Englishman (2007), Ceredigion: 101 o'i Beirdd ac Emynwyr (2010) ac Y Gymraes o Ganaan (2011). Mae yn gyn-ddyfarnwraig tenis ryngwladol ac yn hoff iawn o deithio.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
The War of the Little Englishmen (Y Lolfa, 2007)
Ceredigion - 101 o'i Beirdd ac Emynwyr (Eirian Jones, 2011)
Y Gymraes o Ganaan (Y Lolfa, 2011)


