Rhestr Awduron Cymru

JONES, CARYL PARRY


Caryl Parry JonesCerddor, bardd, actores a chyflwynwraig. Caryl oedd Bardd Plant Cymru 2007-2008. Magwyd yn Ffynnongroyw rhwng Treffynnon a’r Rhyl, ac mae hi bellach wedi ymgartrefu yn Y Fro gyda’i gŵr a’u pedwar plentyn. Mynychodd Ysgol Mornant, Ffynnongroyw ac Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy a Phrifysgol Cymru, Bangor, lle y graddiodd yn y Gymraeg.

Mae hi wedi canu a pherfformio gyda sawl band dros y blynyddoedd, gan gychwyn yn yr ysgol gyda Sidan, yna Injaroc, Bando, a Caryl a’r Band.  Mae hi bellach yn canu gyda’i band a chyda’r grŵp harmoni clos, Harmony Central. Yn ogystal â sgwennu caneuon, mae Caryl wedi ysgrifennu sawl ffilm i blant gan gynnwys ysgrifennu sgript a chaneuon Y Dyn Nath Ddwyn y Nadolig (1985) ar y cyd â Hywel Gwynfryn ac Anrheg Elin (2000).  Mae wedi serennu yn ei chyfres ddynwared ei hun ar S4C yn yr 80au, a hyd heddiw dyw hi byth yn bell o’r sgrîn deledu. Yn ddiweddar bu’n hyfforddi tu ôl i’r llwyfan ar y gyfres Wawffactor ar S4C.

Mae Caryl wedi cyfrannu at gyfrol o farddoniaeth wedi’i ysbrydoli gan fywyd ar goridorau ysgol, Caneuon y Coridorau (Gwasg Carreg Gwalch, 2005) a chasgliad o garolau, Carolau Caryl (Gwasg Carreg Gwalch, 2000). Fel Bardd Plant Cymru 2007-2008, bu Caryl yn teithio ledled y wlad er mwyn cydweithio efo plant ac ysgolion. Ceir detholiad o'r gwaith a gyfansoddwyd yn ystod y cyfnod hwnnw yma.

Mae hi hefyd yn aelod o dîm Talwrn Y Taeogion. Bellach mae Caryl i'w chlywed yn cyflwyno yn y boreuon ar Radio Cymru fel un rhan allweddol o'r ddeuawd 'Dafydd a Caryl'.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Carolau Caryl (Gwasg Carreg Gwalch, 2000)
Cyfres Dwy Genhedlaeth: Rhys Jones a Caryl Parry Jones (Gomer, 2004)
Caneuon y Coridorau (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
Goreuon Caryl (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)
 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z