Rhestr Awduron Cymru

RHYS, IWAN

Iwan RhysEnillodd Iwan, sy’n wreiddiol o Borthyrhyd ger Caerfyrddin, Gadair Eisteddfod yr Urdd ddwywaith, yn 2001 ac yn 2008.  Bu’n rhan o’r daith Crap ar Farddoni yn 2006 gyda Catrin Dafydd, Hywel Griffiths, Aneirin Karadog a Eurig Salisbury. Mae’n aelod o dîm Y Glêr ar Dalwrn y Beirdd a thîm Y Deheubarth yn yr Ymryson.


Detholiad o Gyhoeddiadau:
Crap ar Farddoni (cyfrannwr) (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)
Eleni Mewn Englynion (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)


Adolygiadau:

"..yn dangos pa mor wych o hyblyg yw'r gynghanedd, a mesur yr englyn, yn nwylo bardd da."
Sian Northey, Gwales.com, yn trafod Eleni Mewn Englynion



Eleni Mewn Englynion
(Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
Rhwng Eisteddfod yr Urdd 2007 ac Eisteddfod yr Urdd 2008 cyfansodd odd Iwan Rhys, prifardd yr Urdd, englyn bob dydd. Ceir y cyfan oll yn y gyfrol hon.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z