Rhestr Awduron Cymru

KARADOG, ANEIRIN

E-bost: neikaradog@hotmail.com

Brodor o Bontypridd a enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd Caerdydd yn 2005.  Mae Aneirin hefyd yn adnabyddus fel un o aelodau’r grwpiau hip hop Y Diwygiad a’r Genod Droog.  Gall Aneirin rapio mewn pum iaith gan gynnwys Llydaweg a Sbaeneg.  Bu hefyd yn rhan o’r daith Crap ar Farddoni gyda rhai o feirdd ifanc Cymru, Catrin Dafydd, Hywel Griffiths, Eurig Salisbury a Iwan Rhys.


Detholiad o Gyhoeddiadau:

Crap ar Farddoni (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)

 
Crap ar Farddoni
(Gwasg Carreg Gwalch, 2006)
Casgliad o gerddi gan y pump bardd a restrir uchod. Ceir yma gerddi ar wahanol bynciau ac mewn gwahanol fesurau - canu caeth, cerddi ar fydr ac odl a cherddi'n y wers rydd.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.




Chwilio (7)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z