Rhestr Awduron Cymru
GRIFFITHS, HYWEL
Ffôn: 07966 680 763
E-bost: hywelmeilyr@gmail.com
Enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008 gydai’i gasgliad o gerddi, Y Tynnwr Lluniau. Enillydd Cadair Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn yn 2004, ac eto yn Sir Gâr yn 2007. Bu’n aelod o dîm talwrn y Glêr ac aelod o dîm ymryson beirdd Y Deheubarth ac yn rhan o’r daith Crap ar Farddoni a deithiodd drwy Gymru’r llynedd. Fe yw Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Cafodd ei fagu ger pentref Llangynog. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Llangynog ac Ysgol Gyfun Bro Myrddin pan ddysgodd y cynganeddion yng nghwmni Eurig Salisbury. Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth mewn Daearyddiaeth a Mathemateg ac mae’n astudio ar gyfer doethuriaeth mewn daearyddiaeth ffisegol ac yn darlithio drwy’r Gymraeg yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.
Bu ei gyfrol Banerog (Y Lolfa, 2009), ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2010.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Crap ar Farddoni (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)
Banerog (Y Lolfa, 2009)
Adolygiadau:
"Cyfrol a fydd yn sicr o blesio’r glust a’r llygad yw hon." - Osian Rhys Jones, Gwales.com (yn trafod Banerog)
Banerog (Y Lolfa, 2009)
Detholiad o gerddi caeth a rhydd gan y bardd a'r ymgyrchydd gwleidyddol, Hywel Griffiths. Mae'r gyfrol yn cynnwys cerdd fuddugol y Goron a enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008. Mae'r pynciau'n amrywio o wleidyddiaeth ac iaith i dirwedd, hanes a phobl Cymru.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


