Rhestr Awduron Cymru
JENKINS, GWYN
Brodor o bentref Penparcau ger Aberystwyth, ond yn Nhal-y-bont y mae ei gartref ers dros chwarter canrif bellach. Mae’n aelod o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru er 1974, bu’n Geidwad Llawysgrifau a Chofysgrifau am ddeng mlynedd; bellach mae’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Casgliadau. Ef oedd golygydd cyffredinol y gyfrol Llyfr y Ganrif a gyhoeddwyd yn 1999.
Bu ei gyfrol, Prif Weinidog Answyddogol Cymru: Cofiant Huw T. Edwards (Y Lolfa, 2007), ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Prif Weinidog Answyddogol Cymru: Cofiant Huw T. Edwards (Y Lolfa, 2007)
Cwpan y Byd 2010 (Y Lolfa, 2010)
Byw yn y Wlad - Y Ffotograffydd yng Nghefn Gwlad 1850-2010 (Y Lolfa, 2010)
Adolygiadau:
"Cafwyd gan Gwyn drysorau’r camera mewn trysor o gyfrol. I mi, dyma lyfr y flwyddyn." Lyn Ebenezer, Gwales.com yn trafod Byw yn y Wlad
"Yn y cofiant trylwyr a chaboledig hwn, mae Gwyn Jenkins yn cloriannu rol unigryw Huw t, ac yn sicrhau iddo le priodol yn hanes y genedl." Dr John Davies yn trafod Prif Weinidog Answyddogol Cymru
Byw yn y Wlad (Y Lolfa, 2010)
I gyd-fynd â'r delweddau trawiadol ceir capsiynau difyr a chyflwyniad i waith y ffotograffwyr a natur cefn gwlad yn y cyfnod dan sylw.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
Prif Weinidog Answyddogol Cymru: Cofiant Huw T. Edwards (Y Lolfa, 2007)
Dyma’r cofiant cyntaf i un o gymeriadau mwyaf deniadol Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Ag yntau yn sosialydd cenedlaetholgar, yn undebwr llafur ac yn gadeirydd cyntaf Cyngor Cymru, cyfeiriwyd at Edwards yn anterth ei yrfa fel ‘Prif Weinidog Answyddogol Cymru’. Cliciwch ar y clawr i brynu copi


