Rhestr Awduron Cymru

DAVIES, JOHN

John DaviesBrodor o Gwm Rhondda yw John Davies.  Fe’i haddysgwyd mewn ysgolion yn Nhreorci, Bwlch-llan a Thregaron ac yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, a Choleg y Drindod, Caergrawnt.  Bu’n addysgu yng Ngholegau Prifysgol Abertawe ac Aberystwyth a bu am ddeunaw mlynedd yn Warden Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth. Yn 1997, ef oedd y prif siaradwr yng nghyfarfod agoriadol Cymdeithas Gogledd America er Astudio Hanes a Diwylliant Cymru.  Mae wedi darlledu’n helaeth, yn enwedig ar destunau hanesyddol.  Daw ei wraig o Flaenau Gwent ac mae ganddynt ddwy ferch a dau fab.  Mae’n byw yn Grangetown, ond yn teithio’n ôl ac ymlaen yn fynych rhwng Caerdydd a’i ardd yng nghefn gwlad Ceredigion.  Ef yw golygydd cyffredinol Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Mae John yn Gymrawd yr Academi.

Enillodd John wobr Llyfr y Flwyddyn 2010 gyda'i gyfrol Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn marw (Y Lolfa, 2009).

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Cardiff and the Marquesses of Bute (1981)
The green and the red: nationalism and ideology in twentieth century Wales (1984)
Hanes Cymru (1989) (ail-argraffiad 2006)
Broadcasting and the BBC in Wales (1994)
A history of Wales (1994) (cyfieithiad o Hanes Cymru; ail-argraffiad 2006)
Plaid Cymru oddi ar 1960 (1997)
The making of Wales (1999)
The Celts (2000)
Y Celtiaid (2001)
Cardiff : a pocket guide (2002)
Cymru - y 100 lle i'w gweld cyn marw (Y Lolfa, 2009)

Adolygiadau:

"Fe ddylai pawb gael dau gopi o'r llyfr hwn. Un i'w arddangos ar y bwrdd coffi yn y stafell ffrynt, a'r llall i'w gadw ar sedd gefn y car er mwyn gallu pori ynddo wrth fynd ar daith drwy Gymru."                  Dafydd Morgan Lewis, Gwales.com



Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn marw  (Y Lolfa, 2009)

Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn marw

Cyfrol gynhwysfawr sy'n sôn am 100 o lefydd yng Nghymru y mae'n rhaid i chi ymweld â nhw, yn ôl yr hanesydd John Davies. Gyda lluniau lliw gan Marian Delyth, dyma lyfr sy'n rhoi cipolwg ar safleoedd hanesyddol fel Pentre Ifan a chastell Maenorbŷr; campau peirianyddol fel pontydd Menai a Phont Cysyllte, a chanolfannau twristaidd fel Canolfan y Dechnoleg Amgen a Phortmeirion.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z