Rhestr Awduron Cymru
GRUFFYDD, KEN LLOYD
Awdur a hanesydd. Ganed ym Mhorthmadog yn 1939 a derbyniodd ei addysg yn yr ysgolion lleol cyn mynd ymlaen i’r Coleg Normal, Bangor; Coleg Cartrefle, Wrecsam a Phifysgol Bangor. Bu’n bensaer ac yn ysgolfeistr, a threuliodd gyfnod yn y Fyddin.
Cyhoeddwyd ei waith cyntaf ym 1963 a bu’n gyd–awdur y llyfr i fechgyn, Yr Hebog (Cyhoeddiadau Modern, 1969) ynghyd â Gerallt Lloyd Owen a Wil Lloyd Davies. Bu’n aelod o dîm - dan oruchwyliaeth Dafydd Orwig - a fu’n gyfrifol am addasu a chyfieithu i’r Gymraeg Atlas Medrau Map, Rhifau 1-3 (Collins Longman 1990). Ynghyd â’i wraig (y Parchedig Eirlys Gruffydd) cyhoeddodd Ffynhonnau Cymru 2: Y Gogledd (Gwasg Carreg Gwalch, 1999).
Mae rhai ysgrifau a darnau o’i farddoniaeth (Cymraeg a Saesneg) i’w gweld yma ac acw mewn cylchgronau, ynghyd â sylwadaeth golygyddol, coffhad, adolygiadau o lyfrau ayyb. Erthyglau yn seiliedig ar agweddau o hanes Cymru yw’r rhan fwyaf o’i gynyrch, oddeutu nawdeg o bapurau hyd yn hyn. Ceir hwy mewn cylchgronau megis Archaelogia Cambrensis, Cylchgrawn Hanes Sir y Fflint, Cymru a’r Mo^r, Hanesydd Cymru, Llafar Gwlad ayyb.
Yn ychwanegol i’w waith ysgrifenedig mae ei waith arlunio i’w gweld yng nghyfrolau ei hun ag awduron eraill. Mae wedi cael oddeutu cant o fapiau wedi eu cyhoeddi yn y dull yma hefyd.
Cyhoeddiadau:
Yr Hebog (cyd. Cyhoeddiadau Modern, 1969)
Rides with the Winds (Mold, 1973)
Eglwys y Plwyf (Gwasg Gwynedd, 1976)
Ffynhonnau Cymru 2: Y Gogledd (cyd. Eirlys Gruffudd) Gwasg Carreg Gwalch


