Rhestr Awduron Cymru
LEWIS, GWYNETH
Ebost: gl@gwynethlewis.com
Gwefan: http://www.gwynethlewis.com
Gwyneth Lewis oedd Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru. Ymysg ei chyhoeddiadau, ceir wyth cyfrol o farddoniaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg. Enillodd ei chasgliad cyntaf yn Saesneg, Parables and Faxes (Bloodaxe, 1995), wobr Gwyl Farddoniaeth Aldeburgh ac fe’i rhestrwyd ar gyfer y Forward Prize, yn union fel ei hail gyfrol, Zero Gravity (Bloodaxe, 1998). Cafodd y gyfrol hon – wedi’i hysbrydoli gan siwrne ei chefnder i drwsio Telesgop Hubble - ei addasu fel rhaglen ddogfen ar gyfer y BBC. Enillodd ei chyfrol Gymraeg, Y Llofrudd Iaith (Barddas, 2000) wobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru; cyrraeddodd Keeping Mum (Bloodaze, 2003) restr fer y gystadleuaeth yn 2004. Mae’r casgliad Chaotic Angels (Bloodaxe, 2005) yn crynhoi’r tair cyfrol cyntaf o farddoniaeth iaith-Saesneg, a Tair mewn Un (fel mae’r teitl yn ei
awgrymu) yn crynhoi’r tair cyfrol Gymraeg.
Gwyneth oedd yn gyfrifol am gyfansoddi’r geiriau ar flaen Canolfan Mileniwm Cymru, a agorodd ym mis Tachwedd 2004. Yn ddiweddar, enillodd un o wobrau Creative Wales a chafodd ei chynnwys fel un o feirdd yn yr ymgyrych gan y Poetry Book Society i hyrwyddo barddoniaeth (‘Next Generation’).
Cafodd llyfr ffeithiol cyntaf Gwyneth, Sunbathing in the Rain: A Cheerful Book on Depression (Flamingo, 2002), ei restri ar gyfer Llyfr y Flwyddyn gan elusen Mind. Mae’r ail gyfrol ffeithiol, Two in a Boat: A Marital Voyage (Fourth Estate, 2005), yn adrodd hanes taith ar gwch a wnaethpwyd yng ngwmni ei gŵr, o Gaerdydd i Ogledd Affrica. Cafodd hon ei gyhoeddi yn yr UDA yn ogystal ag ym Mhrydain, ac roedd ar Rhestr Hir ar gyfer Llyfr y Flwyddyn 2006. Mae Gwyneth wedi ysgrifennu’r libretti ar gyfer dwy opera siambr i blant - Redflight/Barcud a Dolffin – yn ogystal ag oratorio i bum cant o leisiau, The Most Beautiful Man from the Sea, a pherfformiwyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn 2005 (wedi’i chomisiynu gan Opera Cenedlaethol Cymru).
Mae Gwyneth yn Gymrawd yr Academi Gymreig, yn Gymrawd Cymdeithas Genedlaethol Llenyddiaeth (Royal Society of Literature) ac yn dderbynydd wobr NESTA (the National Endowment for Science, Technology and the Arts). Yn 2005 cafodd ei henwi’n Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Caerdydd. Yn y gorffennol, treuliodd dair mlynedd yn yr UDA fel Cymrawd Harkness, lle bu’n astudio yn Harvard ac yn adran Ysgrifennu Graddedigion Prifysgol Columbia. Bu’n cynhyrchu rhaglenni dogfen ac hefyd yn gyfarwyddwr gyda’r BBC, cyn iddi adael y sefydliad er mwyn ysgrifennu ar ei liwt ei hun. Yn ddiweddar, bu Gwyneth yn awdur preswyl yn Ysgol Ffiseg ac Astronomeg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Derbyniodd hefyd wobr Sciart gan y Wellcome Trust.
Tynnwyd y llun o Gwyneth a welir uchod gan Tim Brett.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Sonedau Redsa (Gomer, 1990)
Parables & Faxes (Bloodaxe Books, 1995)
Cyfrif Un ac Un yn Dri (Barddas, 1996)
Zero Gravity (Bloodaxe Books, 1998)
Y Llofrudd Iaith (Barddas, 1999)
Sunbathing in the Rain: A Cheerful Book on Depression (Flamingo, 2002)
Keeping Mum (Bloodaxe Books, 2003)
Tair mewn Un (Barddas, 2005)
Chaotic Angels (Bloodaxe, 2005)
Two in a Boat: A Marital Voyage (Fourth Estate, 2005)
A Hospital Odyssey (Bloodaxe, 2010)
The Meat Tree (Seren, 2010)
Sparrow Tree (Bloodaxe, 2011)
Adolygiadau:
"Bardd crwn, bardd hanesyddol, bardd natur, bardd y gwirioneddau mawr sydd yr un mor gyfforddus yn barddoni yn Gymraeg neu yn Saesneg. Dyma gyfrol o farddoniaeth bwysig gan un o brif feirdd Cymru; cyfrol a fydd yn rhan allweddol o gasgliad y llenor brwd am flynyddoedd lawer"
Andrea Parry, Gwales.com, yn trafod Tair Mewn Un - Cerddi Detholedig
Tair Mewn Un - Cerddi Detholedig (Barddas, 2005)
Cyfrol o gerddi i ddathlu penodi Gwyneth Lewis yn Fardd Cenedlaethol cyntaf Cymru.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


