Rhestr Awduron Cymru
HUWS, DANIEL
Ganed yn Llundain yn 1932. Magwyd yn Llundain a Môn. Graddiodd yng Nghaergrawnt. Gweithiodd yn Adran Llawysgrifau a Chofysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 1961 a 1992.
Tra'n astudio yng Nghaergrawnt, daeth i fod yn gymydog agos a'r bardd Ted Hughes. Cyhoeddodd cofiant yn darlunio'r Hughes ifanc, ei cyfeillion yng Nghaergrawnt, ei ddiddordebau, ei berthynas efo Sylvia Plath ymysg atgofion eraill.
Mae wedi cyfrannu’n helaeth i lyfrau a chylchgronau, yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn ymwneud yn bennaf llawysgrifau a cherddoriaeth draddodiadol. Mae Daniel yn Aelod Llenyddiaeth Cymru.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Noth (Secker, 1972)
The Quarry (Faber, 1999)
Welsh Medieval Manuscripts (Gwasg Prifysgol Cymru, 2000)
Cyfres Darlith Goffa J.E. Caerwyn a Gwen Williams 2003: Cynnull y Farddoniaeth (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 2004)
Peniarth 28 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2008)
Memories of Ted Hughes 1952-1963 (Five Leaves, 2010)
Cyhoeddiadau Eraill:
Clytweithiau Edrica Huws (cyd ol. Manaman, 2007)


