Rhestr Awduron Cymru
LLOYD, PHILIP
Hafan Deg, 4 Bryn Noddfa, Yr Wyddgrug, Sir Y Fflint CH7 1YR
Ffôn: 01352 758718
Addysgwr wedi ymddeol. Bu’n athro cynorthwyol a phennaeth adran uwchradd, Warden Canolfan Athrawon, Tiwtor–gynhyrchydd mewn Canolfan Technoleg Addysg Sirol a Swyddog Addysg Amgueddfeydd Sirol. Ganed ym Merthyr Tudful. Addysgwyd yng Ngholeg Normal Bangor, Prifysgol Bryste a Phrifysgol Cymru Aberystwyth. Wedi cyhoeddi erthyglau mewn sawl papur bro, Y Casglwr (Cymdeithas Bob Owen) ac Ystrad Alun (Cymdeithas Ddinesig Yr Wyddgrug a’r Cylch). Golygydd: Treuddyn Past & Present / Treuddyn Ddoe a Heddiw (2002) ar ran Pwyllgor Mileniwm Treuddyn, Sir Y Fflint.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Digio Daniel a Blino’r Blaenoriaid (Ystrad Alun, Haf 2000)
Daniel in Extremis (Ystrad Alun, Nadolig 2005)
Daniel dan Bwysau (Y Casglwr, Haf 2006)
Pynciau a gynigir sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Nofelau Daniel Owen: eu llunio fesul pennod unigol ar gyfer cyfnodolion i ddechrau, yna eu cyhoeddi yn eu crynswth yn gyfrolau rhwymedig
2. Rhys Lewis gan Daniel Owen: addasiadau i’r llwyfan broffesiynol ac amatur yng Nghymru, c19 ddiweddar / c20 gynnar
Oedran y Gynulleidfa: 6ed dosbarth, oedolion


