Rhestr Awduron Cymru
GEORGE, EIRWYN
Bardd o ardal y Preseli yng ngogledd Sir Benfro. Wedi bwrw blwyddyn yng Ngholeg Harlech a chymryd gradd anrhydedd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth bu'n athro Cymraeg a Hanes yn Ysgol Uwchradd Arberth ac Ysgol Gyfun y Preseli, a hefyd yn Llyfrgellydd Gweithgareddau yn Llyfrgell y Sir yn Hwlffordd am 15 mlynedd cyn ymddeol.
Enillodd 14 o wobrau yn Adran Lenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol o bryd i'w gilydd yn cynnwys y Goron ddwywaith, yn 1982 ac 1993. Cyhoeddodd hefyd 15 o gyfrolau yn cynnwys barddoniaeth, hanes, rhyddiaith greadigol a llyfrau iaith.
Mae’r Prifardd hefyd yn ysgrifennu’n helaeth am hanes Sir Benfro. Yn 2010 cyhoeddodd ei hunangofiant, Fel Hyn y Bu (Y Lolfa), yn adrodd hanes ei fywyd a'i atgoffion byw o gyfnod plentyndod hyd y dydd heddiw.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
O’r Moelwyn i’r Preselau ar y cyd â T.R. Jones (1975)
Llynnoedd a Cherddi Eraill (Gwasg Gwynedd, 1996)
Meini Nadd a Mynyddoedd: Teithiau Llên a Hanes yn Ardal y Preselau (Gomer, 1999)
Cyfres Broydd Cymru: 13. Gorllewin Penfro (Gwasg Carreg Gwalch, 2002)
Hanes Eisteddfod Maenclochog (Clychau Cochog, 2005)
Cân yr Oerwynt (Barddas, 2009)
Fel Hyn y Bu - Hunangofiant Eirwyn George (Y Lolfa, 2010)
Fel Hyn y Bu - Hunangofiant Eirwyn George (Y Lolfa, 2010)
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


