Rhestr Awduron Cymru

AB IFOR, GWYNFOR

Bardd. Enillydd Cadair Eisteddfod Abertawe 2006 ac enillydd Cadair Eisteddfod y Ffor ger Pwllheli yn niwedd y 70au. Cyfrannodd yn gyson at ymrysonfeydd Barddas yn yr 80au ac ar Dalwrn y Beirdd gyda thimau Dyffryn Ogwen a Thregarth.  Cafodd ei eni yn Sling gan fynychu Capel Gorffwysfa sydd bellach yn gartref iddo a’i wraig a’i bedair merch.  Graddiodd o Brifysgol Cymru yn 1975 a derbynniodd dysysgrif i raddedigion ym Mangor yn 1976.  Wedi cyfnod gyda Chyngor Gwynedd yn yr adran addysg yn bennaf daeth yn brif swyddog gweinyddol y Coleg Normal o 1989 hyd uno’r sefydliad gyda’r Brifysgol yn 1996.  Bu’n uwch–gofrestrydd cynorthwyol gyda’r Brifysgol tan 2000. Yn y flwyddyn honno y sefydlodd fusnes cyfieithu Tasg gyda’i wraig ac mae’r ddau yn gweithio ym Methesda. 
 

Bachog 1 (Medi 2010)
Gwynfor sy'n golygu'r cylchgrawn newydd o Ddyffryn Ogwen ar gyfer pobl ifanc. Mae'n cynnwys erthyglau, pytiau, lluniau lliw, barddoniaeth, cyfweliadau, cystadlaethau, hysbysebion a ryseitiau.

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z