Rhestr Awduron Cymru
JONES, GWEN PRITCHARD
Nofelydd. Yn enedigol o Dal–y–sarn yn Nyffryn Nantlle, bu hi’n athrawes gynradd yng Ngwynedd, yn cadw stondin mewn marchnad, yn rhedeg cwmni arlwyo ac yn gweithio yn y BBC. Mae hi nawr yn byw ym Mhant-glas. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch 2006 gyda’i nofel Dygwyl Eneidiau (Gwasg Gwynedd, 2006). Bu Gwen hefyd ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2007.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Cyfres Project Llyfrau 3D (3 cyfrol, Gwasg Taf, 1990, 1996)
Dygwyl Eneidiau (Gwasg Gwynedd, 2006)
Gelert (Gwasg y Bwythyn, 2007)
Pieta (Gwasg y Bwthyn, 2010)
Adolygiadau:
"Y mae’r awdures yn bencampwraig ar adrodd stori gydag arddull addas ddarllenadwy, ac nid yw’r cefndir hanesyddol yn llethu na mygu’r nofel mewn unrhyw fodd ond ei chryfhau. Fe wna’r dioddef a’r gwrthdaro, a’r dirgelwch ynghylch sawl cymeriad y nofel hon yn un hynod ddarllenadwy. Dyma ychwanegiad llwyddiannus a swmpus (dros 500 tudalen) i’r silff lle gorwedd nofelau R. Cyril Hughes, Marion Eames a Rhydwen Williams."
Ion Thomas, Gwales.com
Dygwyl Eneidiau (Gwasg Gwynedd, 2006)
Nofel hanesyddol yn llawn cyffro a rhamant sydd wedi eu gwau o gwmpas digwyddiadau cythryblus cyn dechrau'r rhyfel cartref yn 1642. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn 2006, ac fe'i enwyd ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2007.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


