Rhestr Awduron Cymru

ROBERTS, EIGRA LEWIS

Lluest, DOLWYDDELAN LL25 0RZ
Ffôn: (01690) 750239

Eigra Lewis RobertsMae Eigra Lewis Roberts yn un o brif lenorion Cymru.  Fe’i ganed ym Mlaenau Ffestiniog a’i haddysgu yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor.  Mae’n byw bellach yn Nolwyddelan ac yn briod gyda thri o blant a deuddeg o wyrion ac wyresau.  Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Brynhyfryd, pan oedd hi ond ugain oed ac ers hynny bu’n awdur toreth o gyfrolau, gan gynnwys nofelau, straeon byrion, llyfrau i blant, cofiannau a drama.  Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1965 a 1968 a Thlws y Ddrama yn 1974.  Hi oedd awdures y gyfres deledu ’Minafon’. Enillodd Goron Eisteddfod Abertawe 2006.

Enwyd ei chyfrol o straeon byrion, Oni Bai (Gomer, 2005) ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2005. Mae hi yn Gymrawd yr Academi Gymreig.


Detholiad o Gyhoeddiadau
:
Rhannu'r Tŷ (Gomer, 2003; 2007)
Streic: Dyddiadur Ifan
 (Gomer, 2004)
Oni Bai (Gomer, 2005)
Cês Hana (Gomer, 2005)

Return Ticket (Gomer, 2006)
Carreg Wrth Garreg (Gomer, 2007)
Hi a Fi (Gomer, 2009)


Adolygiadau:

"Mae Eigra wedi creu bychanfyd o bobl go-iawn."
Meg Elis, Gwales.com, yn trafod Rhannu'r Tŷ


"Yn ogystal â bod yn stori deimladwy sy’n eich cyffwrdd i’r byw, mae hi hefyd yn afaelgar tu hwnt ac fe'i cewch yn anodd rhoi’r llyfr i lawr."
Angharad Williams, Gwales.com, yn trafod Streic - Dyddiadur Ifan Evans


"Mae gan yr awdures ddawn arbennig i lunio cymeriadau byw a digwyddiadau cofiadwy ac mae’n bosibl mwynhau’r nofel lwyddiannus hon ar sawl lefel."
Nest Gwilym, Gwales.com, yn trafodHi a Fi



Hi a Fi (Gomer, 2009)
Nofel am ddwyn i gof blentyndod yw hon, a phlentyndod nofelydd yn benodol. A phwy ŵyr nad yw’r nofelydd weithiau’n drysu rhwng atgof, ffaith a ffuglen?
 
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.





Carreg Wrth Garreg (Gomer, 2007)
Mae'r nofel hon yn ailymweld â bywydau'r cymeriadau hynny a wnaeth y fath argraff yn Rhannu'r Tŷ (2003) ac yn Streic (2004).

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.





Streic - Dyddiadur Ifan Evans (Gomer, 2004)
Dyddiadur yn adrodd hanes Streic y Penrhyn a'r effaith a gaiff ar ei deulu a'r ardal gyfan. Yn cynnwys ffotograffau du-a-gwyn o'r cyfnod.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.









………..

Pynciau sy’n gymwys gan y cynllun Awduron ar Daith
:
1. Darllen a thrafod ei gwaith ei hun
2. Byd geiriau
3. Ysgrifennu ar gyfer y teledu
4. Perthynas llyfr a’r cyfryngau
5. Byd Minafon

Oedran y gynulleidfa: Oedolion
 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z