Rhestr Awduron Cymru
BIANCHI, TONY
Brodor o North Shields, Northumberland yn wreiddiol. Wedi cyfnodau yn Llanbedr Pont Steffan, Cei Conna ac Aberystwyth, symudodd i Gaerdydd, lle mae’n byw o hyd. Bu’n bennaeth Adran Lenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru cyn mynd i weithio ar ei liwt ei hun yn 2002. Mae'n Gymrawd yr Academi ac yn gyn-Gymrawd Prifysgol Cymru. Enillodd wobrau am ei farddoniaeth, gan gynnwys Gwobr Cerdd o Ewrop Féile Filíochta 2004 a Thlws W.D. Williams tair gwaith. Cipiodd ei ail nofel, Pryfeta (Y Lolfa, 2007), Wobr Goffa Daniel Owen yn 2007 a bu hefyd ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2008.
Enwyd Cyffesion Geordie Oddi Cartref (Gwasg Gomer, 2010) ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2011.
Adolygiadau:
“Mae Tony Bianchi’n gwthio'r ffiniau yn fwy na neb arall ers amser.”
Wiliam Owen Roberts (yn trafod Cyffesion Geordie Oddi Cartref)
Mae’r ysgrifennu’n gyhyrog ac ar adegau’n gwbl ysgytwol… Cefais fy ngwefreiddio"
Robat Arwyn (yn trafod Pryfeta)
"Dyma waith gorffenedig sy’n mynd a ni i faes cwbl wahanol ac yn dal i droi yn y cof ymhell ar ôl gorffen ei ddarllen"
Annes Glyn (yn trafod Pryfeta)
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Esgyrn Bach (Y Lolfa, 2006)
Pryfeta (Y Lolfa, 2007)
Chwilio am Sebastian Pierce (Gwasg Gomer, 2009)
Cyffesion Geordie Oddi Cartref (Gwasg Gomer, 2010)
Cyffesion Georgie Oddi Cartref (Gwasg Gomer, 2010)
Casgliad o straeaon byrion, hunangofiannol yn dilyn taith Bianchi o North Shields tua Caerdydd. Ond nid hunangofiant cyffredin mo hwn. Ceir plethiad o hunllefau, atgofion a llond llaw o hiwmor.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi
Pryfeta (Y Lolfa, 2007)
Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2007. Nofel hunangofiannol am Jim, dyn a geisia adennill rheolaeth ar atgofion ysgytwol o’i blentyndod. Ceir yma safon uchel o ysgrifennu, cymeriadau cryfion a defnydd gwefreiddiol o dafodiaith.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi


