Rhestr Awduron Cymru

OWEN, LLWYD

Gwefan: www.llwydowen.co.uk
Ebost: llwydowen@yahoo.co.uk

Ganwyd Llwyd yn 1977 a magwyd ef yng Nghaerdydd. Mynychodd Ysgol y Wern ac Ysgol Glantaf cyn astudio ym Mhrifysgol Bangor a graddio ym 1998. Ers hynny mae wedi gweithio amryw o swyddi, gan gynnwys gyrrwr bws, gwerthwr drws-i-ddrws, cynorthwyydd warws, swyddog y wasg, cyflwynydd teledu ac mewn canolfan alwadau. Ynghyd ag ysgrifennu ffuglen, mae’n gweithio fel cyfieithydd. Mae’n byw yn ardal Rhiwbeina’r ddinas gyda’i wraig a’i ddwy ferch.

Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Ffawd Cywilydd a Chelwyddau, yn 2006, gyda Ffydd Gobaith Cariad yn dilyn yn hwryach yn ystod yr un flwyddyn. Ymddangosodd Yr Ergyd Olaf yn 2007, Mr Blaidd yn 2009 ac Un Ddinas Dau Fyd yn 2011, ill oll wedi’u cyhoeddi gan Y Lolfa. Enillodd Ffydd Gobaith Cariad Wobr Llyfr y Flwyddyn 2007 ac ym mis Mai 2010 cyhoeddodd Alcemi addasiad yr awdur ei hun o’r nofel honno, sef Faith Hope & Love.

Bydd yn dechrau ar nofel newydd o’r enw Cowbois ym mis Medi 2011, gyda’r bwriad o’i chyhoeddi ym mis Tachwedd 2012.

Detholiad o Gyhoeddiadau:

Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau (Y Lolfa, 2006)
Ffydd Gobaith Cariad (Y Lolfa, 2006)
Yr Ergyd Olaf (Y Lolfa, 2007)
Mr Blaidd (Y Lolfa, 2009)
Faith Hope & Love (Alcemi 2010)
Un Ddinas, Dau Fyd (Y Lolfa, 2011)

Adolygiadau:

Ffawd Cywilydd a Chelwyddau

“Fe ddylai’r nofel hon achosi daeargryn. Mae hi’n hollol wahanol i unrhyw beth rydym wedi ei ddarllen yn y Gymraeg o’r blaen. Yr hyn sy’n drawiadol am yr ysgrifennu yw’r egni aruthrol a berthyn iddo. Mae yna bendilio parhaus o’r doniol i’r dwys… ac yn raddol fe ddatgelir y tristwch sobreiddiol sy’n sail i’r stori.” Western Mail

“Yn bersonol, roeddwn wrth fy modd yn plymio i fyd tywyll Luc – byd doniol, byd dychanol, byd dig, byd chwerw, byd unig a byd trist. Mwynheiais Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau yn fawr. Mae hon yn nofel arloesol – o ran gwreiddioldeb ei stori ac o ran ei mynegiant unigryw. Dylid ei dderbyn a chroeso brwd.” Rhodri Ll Evans, BBC Cymru’r Byd

“Mae’r plot a’r cymeriadu’n gryf, ac mae naratif llif-yr-ymennydd yn dull perffaith I gyfleu anesmwythyd meddyliol y prif gymeriad.” Owain Rhys, Taliesin Haf 2006

Ffydd Gobaith Cariad

“Mae Llwyd Owen yn storïwr penigamp, sydd wedi llwyddo unwaith eto i ddod â bywyd Caerdydd yn weledol fyw ar y dudalen. Bydd y ffaith fod yma lai o elfennau ‘ych a fi’ yn siomi rhai, ac yn rhyddhad i eraill, ond mae Ffydd, Gobaith, Cariad yn aeddfetach na’i nofel gyntaf. Gallwn ond gobeithio bod y ffaith mai dyma’r ail nofel i Llwyd Owen ei rhyddhau o fewn llai na blwyddyn yn arwydd bod llawer mwy i ddod eto gan yr awdur talentog hwn.” Kate Crockett

“Mae stori Llwyd Owen yn plymio o ddosbarth canol-uwch i is-ddosbarth y brifddinas ac yn llithro o’r byd hwn i fyd arall rhwng yfory, ddoe a heddiw – ail yn unig i storïwr Y Mabinogi.”
Dafydd Elis-Thomas

“Dyma blot-feistr heb ei ail; negesydd o’r isfyd sydd a’i naratif yn ein tywys trwy’r niwl.”
Fflur Dafydd

Yr Ergyd Olaf

“Camp Llwyd Owen yw ein galluogi i gredu yn y cymeriadau hyn er gwaetha’u cefndir annhebygol ac, yn wir, mae rhywun yn rhyfeddu at ei allu i greu cymeriadau sy’n groes i’r disgwyl… Mae gwaith llenyddol yr awdur wedi’i groesawu yn gyflym iawn, a bydd Yr Ergyd Olaf yn sicr o blesio’r rheiny sydd wedi gwirioni ar ei ddawn fel storïwr.” Kate Crockett

“(Awdur sy’n) creu storïau a golygfeydd na welir mo’u tebyg mewn nofelau eraill yn y Gymraeg… (Nofel sy’n) dangos fod un o awduron disgleiriaf Cymru yn gweithio’n galed ar ei grefft, a’r darllenydd yn y pen draw sydd yn elwa o’r gwaith caled yma." Llion Iwan

Mr Blaidd

“Stori ddirdynnol am chwaergarwch a difrawder, caethiwed a breuddwydion maluriedig. Aiff Mr Blaidd a chi am dro i’r coed, a chwantau mwyaf anllad ochr dywyll y natur ddynol yn eich dilyn pob cam o’r ffordd.” Dewi Prysor

“Croniclo cymdeithas gyfoes ddinesig a wna Llwyd Owen yn null y nofelwyr mawr. Trwy ddarllen Mr Blaidd, dysgwn fwy am y Gymru gyfoes nag o unrhyw bapur newydd.” Llion Iwan

“Cyhyd â’ch bod chi’n barod am iaith a disgrifiadau cignoeth – mae gwledd o stori o’ch blaen.” Gwenllian Grigg

“Bydd yn apelio at unrhyw un sy’n mwynhau stori dda gyda lot o droeon annisgwyl… Mae yna adegau yn y nofel pan ydych chi’n meddwl da chi’n gwybod be sy’n mynd i ddigwydd wedyn mae o’n rhoi rhyw dro arall... a da chi’n cicio’ch hun am fod mor slô. Mae o’n wych iawn am eich syrpreisio chi.” Beca Brown (yn siarad ar Radio Cymru)

Un Ddinas Dau Fyd

“Dyma awdur sy'n plymio i ddyfnderoedd tywyll bywyd yn eofn a digyfaddawd gan gilwenu arnom o'r cysgodion.” Fflur Dafydd

“Aiff Un Ddinas Dau Fyd â chi ar daith droellog trwy emosiynau, breuddwydion a chwantau mwyaf greddfol y ddynolryw - taith lle mae'r annisgwyl yn aros ar ddiwedd pob stryd, a phob cornel yn cynyddu'r cnoi yn y stumog wrth i chi synhwyro fod rhywbeth erchyll yn llechu rownd y tro.”
Dewi Prysor




Un Ddinas, Dau Fyd (Y Lolfa, 2011)
Dyma nofel newydd arobryn o Gaerdydd, sy'n ddilyniant i "Ffawd Cywilydd a Chelwyddau".

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.




Mr Blaidd (Y Lolfa, 2009)
Stori dditectif o ddyfnderoedd tywyll dychymyg Llwyd Owen.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.

 



Ffydd Gobaith Cariad (Y Lolfa, 2006)
Gan archwilio themau cyfoes, dyma nofel am undonedd bywyd a'r pethau bach (a mawr) sy'n tarfu ar y tawelwch.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.





 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z