Rhestr Awduron Cymru

HUGHES, MARY

Llwyn Piod, Y Groeslon, Caernarfon, Gwynedd LL54 7UF
Ffôn: 01286 831383
E–bost: hughes7uf@btinternet.com
Ewch yma ar gyfer manylion trefnu digwyddiad

Yn enedigol o Fwlchderwin, cafodd ei magwraeth yn ardal Y Groeslon, ger Caernarfon.  Addysgwyd yn Ysgol Dyffryn Nantlle a Choleg y Brifysgol, Bangor.  Graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg.  Bu wedyn yn gweithio ym myd Addysg, fel athrawes a darlithydd.  Enillodd Goron yr Urdd ym Mhorthmadog a Gwobr gyntaf am Ymson yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth.  Treuliodd gyfnod byr fel Awdur Preswyl yn Llyfrgell Meirion-Dwyfor. Mae Mary eisoes wedi cyhoeddi wyth o gyfrolau, a gwneud cyfraniad i ddwy gyfrol lleol. 

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Bwrw dy Fara (Llyfrau'r Dryw, 1971)
Iar Fach yr Ha’ (gyda nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru; C. Davies, 1973)
Rhosyn Rhudd (dan yr enw 'Lisabeth Huws'; Cyfres y Fodrwy, 1987)
Tecs (Gwasg Gomer, 1992)
Gist Gêl (Gwasg Gomer, 1996)
Naw Math o Gi (Gwasg Gomer, 1997)
Fel Mwclis (Gwasg y Bwthyn, 2005)
Darlith Flynyddol Llyfrgell Pen-y-Groes: Gobaith a Gorthrwm (Cyngor Gwynedd, 2010)

Chwilio (2)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z