Rhestr Awduron Cymru

DAVIES, GWENNO MAIR

Enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru 2005. Yn gyn–ddisgybl yn Ysgol y Creuddyn, astudiodd Gwenno Gymraeg a Drama ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Mae hi bellach yn dysgu Drama ac Astudiaethau’r Cyfryngau yn Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera.  Mae Gwenno wedi ennill y gadair ddwywaith yn Eisteddfodau Sirol Mudiad y Ffermwyr Ifanc, ac ennill tair medal ddrama yn Eisteddfod yr Ysgol.  Daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Coron yr Urdd yn 2004 ac yn ail am y Fedal Ddrama yn 1998.

Cyhoeddiad
Dramâu’r Drain: Su Ma’i Waaa! (Y Lolfa, 2006)



Dramâu’r Drain: Su Ma’i Waaa! (Y Lolfa, 2006)
Caiff pum disgybl eu noddi i dreulio noson mewn hen blasdy sy wedi mynd a'i ben iddo. Beth tybed sy'n dychryn yn ystod y nos? Rhan o gyfres Dramau'r Drain

Cliciwch ar y clawr i brynu copi

 



Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z